Ewch i’r prif gynnwys

Hwyrach mai signalau tanddwr a gynhyrchwyd yn sgil damweiniau awyren yn y môr agored fydd yr allwedd i ganfod lle gorffwys terfynol MH370

20 Mai 2024

Llun oddi isod o don bwerus sy’n cwympo’n nerthol
Mae gwrthdaro’n galed yn erbyn y cefnfor, megis yn achos damweiniau awyren, yn creu llofnodion acwstig penodol sy'n teithio’n bell drwy'r dŵr ac yn cael eu cofnodi gan dechnoleg hydroffon o nifer o leoliadau ar wely'r môr

Mae ymchwil gan Brifysgol Caerdydd yn dangos ei bod yn bosibl bod signalau’r microffonau tanddwr yn hollbwysig yn y gwaith o leoli awyrennau fel MH370 pan fydd y rhain yn gwrthdaro yn erbyn y cefnfor.

At ddibenion yr astudiaeth, dadansoddwyd mwy nag 100 awr o ddata a gipiwyd gan ddyfeisiau a elwir yn hydroffonau yn dilyn 10 o damweiniau awyren yn y gorffennol yn ogystal ag un llong danfor a ddiflannodd.

Mae'r canfyddiadau, a gyhoeddwyd yn Scientific Reports ddegawd ar ôl i MH370 ddiflannu, yn cynnig argymhellion er mwyn ymchwilio ymhellach i leoliad hysbys olaf yr awyren ac yn sefydlu fframwaith i fynd i'r afael â digwyddiadau tebyg yn y dyfodol.

Mae gwrthdaro’n galed yn erbyn y cefnfor, megis yn achos damweiniau awyren, yn creu llofnodion acwstig penodol sy'n teithio’n bell drwy'r dŵr ac yn cael eu cofnodi gan dechnoleg hydroffon o nifer o leoliadau ar wely'r môr.

Dyma a ddywedodd Dr Usama Kadri, Darllenydd yn Ysgol Mathemateg Prifysgol Caerdydd: “Mae ein dadansoddiad yn dangos i signalau gwasgedd clir yn dilyn damweiniau awyren blaenorol gael eu canfod ar hydroffonau, hyd yn oed o bellter o fwy na 3,000km.

“Yn achos MH370, daeth yr ymchwiliadau swyddogol i’r casgliad bod yn rhaid i’r awyren fod wedi gwrthdaro yn erbyn y môr ger y 7fed arc – sef y lle pan gafwyd y cyfathrebu olaf rhwng yr awyren ac INMERSAT.

Mae’r brif ardal chwilio wrth y 7fed arc lai na 2,000km i ffwrdd o’r orsaf hydroacwstig yn Cape Leeuwin, Awstralia, heb yr un rhwystr a allai hidlo’r signal. Fodd bynnag, o fewn y cyfnod amser a'r lleoliad a awgrymodd y chwiliad swyddogol, dim ond un signal cymharol wan y daethpwyd o hyd iddo. Hwyrach bod signalau eraill ynghlwm wrtho ond dim ond os bydd y chwiliad swyddogol yn ailgydio yn y gwaith.
Dr Usama Kadri Lecturer in Applied Mathematics

“Mae angen dadansoddiad pellach ac ymchwil yn y dyfodol felly i ddeall yn llawn y signalau a ganfuwyd a’u goblygiadau ar gyfer diflaniad MH370.”

Mae'r astudiaeth yn argymell bod yr awdurdodau'n cynnal arbrofion maes gan gynnwys ffrwydradau rheoledig neu ddrylliau aer ar hyd y 7fed arc tra eu bod yn monitro'r signalau a dderbynnir yn y gorsafoedd hydroacwstig o’i hamgylch.

Gan fod lefelau ynni sy’n debyg i wrthdrawiad MH370 â’r môr, hwyrach y bydd arbrofion o'r fath yn cynnig rhagor o wybodaeth am leoliad yr awyren goll, yn ôl yr astudiaeth.

Ar ben hyn, byddai'r arbrofion yn helpu i ddatblygu'r defnydd o dechnoleg hydroacwstig yn offeryn i awdurdodau ei ddefnyddio wrth gyfyngu yn y dyfodol ar nifer y lleoliadau posibl lle bydd awyrennau’n gwrthdaro yn erbyn y môr.

Ychwanegodd Dr Kadri: “Cynhaliwyd ymarferion tebyg yn y dasg chwilio ac achub ar gyfer yr ARA San Juan, llong danfor a ddiflannodd oddi ar arfordir yr Ariannin yn 2017. Mae hyn yn dangos inni ei bod yn gymharol syml ac ymarferol ac yn sgil hyn hwyrach y byddwn ni’n gallu pennu’r berthynas rhwng y signal a MH370, a hynny cyn ailgydio mewn chwiliad helaeth arall.

“Os bydd perthynas rhwng y ddau, byddai hyn yn culhau'n sylweddol yr ardal lle y mae’r awyren, hynny yw, yr union le bron â bod. Ar y llaw arall, os canfyddir nad oes perthynas rhwng y signalau, byddai’n dangos bod gofyn i’r awdurdodau ailasesu’r amserlen neu’r lleoliad a bennwyd yn sgil eu hymdrechion chwilio swyddogol hyd yma.”

Diflannodd MH370 ddydd Sadwrn 8 Mawrth 2014 yn ystod taith o Kuala Lumpur i Beijing.

Er gwaethaf ymdrech chwilio amlwladol helaeth, mae lleoliad yr awyren a thynged yr 239 o’r teithwyr a’r criw yn ansicr o hyd.

Mae'r ymchwil yn canolbwyntio ar ddata hydroffon yn ystod rhan olaf taith yr awyren yng Nghefnfor Deheuol yr India, gan chwilio am signalau a gynhyrchwyd ger y 7fed arc yn dilyn argymhellion y chwiliad swyddogol.

Ar ben hynny, dadansoddwyd data sy'n gysylltiedig â’r adeg pan ddiflannodd yr hediad a thua’r adeg y cafwyd y cyfathrebu olaf, yng Ngwlff Gwlad Thai, a hynny i ganfod a oedd signalau anarferol.

Dyma a ddywedodd Dr Kadri: “Roedd diflaniad MH370 wedi ysgogi’r gwaith hwn oherwydd ei fod wedi codi cwestiynau am y graddau y gellir canfod damweiniau awyren yn y cefnfor a’r defnydd posibl o dechnoleg hydroacwstig i gynorthwyo ymdrechion chwilio ac achub.

“Yn anffodus, dydyn ni ddim wedi gallu dod o hyd i signal sy’n meddu ar y sicrwydd sydd ei angen i lansio chwiliad newydd am yr awyren sydd ar goll.

“Fodd bynnag, os bydd yr awdurdodau priodol yn dilyn yr argymhellion, gallwn asesu pa mor berthnasol yw’r signalau a ddaeth i law, gan daflu goleuni o bosibl ar leoliad MH370.”

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn ymrwymedig i addysgu, ysgolheictod ac ymchwil rhagorol, ac i gefnogi ei myfyrwyr i wireddu eu potensial academaidd.