Ewch i’r prif gynnwys

Arbenigwyr yn dod ynghyd yng nghyfarfod cyhoeddus y Sefydliad Arloesedd Sero Net

5 Mai 2024

Y Sefydliad Arloesedd Sero Net yn croesawu cydweithwyr i’w ail gyfarfod cyhoeddus blynyddol.

Yn dilyn llwyddiant lansiad swyddogol y sefydliad a chyfarfodydd cyhoeddus y llynedd, roedd y Sefydliad Arloesedd Sero Net yn falch iawn o groesawu cydweithwyr o’r Brifysgol i gyfarfod cyhoeddus 2024.

Cynhaliwyd y cyfarfod ddydd Llun, 22 Ebrill (sef Diwrnod y Ddaear), a hynny yn y Man Arddangos yn Adeilad Bute y Brifysgol. Roedd mwy na 50 o gydweithwyr yn bresennol. Tynnwyd sylw at y gorau o ymchwil y sefydliad, gan ymdrin â phob un o’i brif feysydd: deall yr adnoddau sydd gennym ni i gyflawni nodau sero net; gofyn a oes modd lliniaru effeithiau ar yr hinsawdd; a chefnogi’r cyfnod pontio hirdymor i economi wyrddach.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae'r sefydliad wedi penodi 10 arweinydd thema sy'n cynrychioli cryfderau ymchwil sefydledig a newydd y Brifysgol. Y rhain yw: dal a storio carbon; catalysis; lled-ddargludyddion cyfansawdd; metelau critigol; dadansoddi ynni a systemau cyfan; amgylcheddau adeiledig carbon isel; atebion sy'n seiliedig ar natur; trawsnewid polisïau a thrawsnewidiadau cymdeithasol; asesiadau techno-economaidd ac asesu cylch bywyd; a thanwyddau di-garbon.

Yn y cyfarfod cyhoeddus eleni, ymchwiliwyd i’r themâu hyn yn fanylach drwy gyfrwng cyflwyniadau fflach. Hefyd, cynhaliwyd sesiynau grwpiau bach, a roddodd gyfle i’r cydweithwyr gwrdd ag eraill a chydweithio â nhw ar thema o’u dewis.

Dywedodd yr Athro Duncan Wass, Cyd-gyfarwyddwr y Sefydliad Arloesedd Sero Net: “Unwaith eto, mae’r digwyddiad hwn wedi dangos pa mor dda ac amrywiol yw’r ymchwil sy’n cael ei wneud ym Mhrifysgol Caerdydd sy’n berthnasol i faes sero net. Hoffwn i ddiolch i’r holl siaradwyr a’r unigolion oedd yn bresennol am eu cyfraniadau. Mae’n amlwg bod llawer o gyfleoedd ar gael i gynnal prosiectau newydd drwy ddod â’n cryfderau ymchwil amrywiol ynghyd.”

Mae’r Brifysgol wedi buddsoddi £5.4 miliwn mewn pum sefydliad arloesi ac ymchwil (y mae’r Sefydliad Arloesedd Sero Net yn eu plith) i fynd i’r afael â’r problemau mwyaf sy’n wynebu cymdeithas, yr economi a’r amgylchedd.

Rhannu’r stori hon

Dewch i wybod rhagor am ein sefydliadau a'r gwaith y maent yn ei wneud.