Cyd-gyfarwyddwr Canolfan Wolfson wedi'i hethol yn gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru
8 Mai 2024
Mae'r Athro Stephan Collishaw, cyd-gyfarwyddwr Canolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc ac ymchwilydd tueddiadau poblogaeth ym maes iechyd meddwl ieuenctid wedi cael ei ethol yn gymrawd i Gymdeithas Ddysgedig Cymru.
Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn Academi Genedlaethol sy'n hyrwyddo'r defnydd o ymchwil i ddatrys heriau cymdeithasol yng Nghymru ac yn rhyngwladol, gan hyrwyddo gwybodaeth a chefnogi arbenigwyr er budd Cymru a thu hwnt.
"Mae cyhoeddi ein Cymrodyr newydd bob amser yn uchafbwynt ym mlwyddyn y Gymdeithas," meddai'r Athro Hywel Thomas, Llywydd y Gymdeithas.
"Mae gwaith y Gymdeithas, y byrddau crwn arloesedd rydyn ni yn eu cynnal a’n Rhwydwaith Ymchwilwyr ar Ddechrau eu Gyrfa i gyd wedi'u hadeiladu ar wybodaeth a chyfraniadau ein Cymrodyr”.
"Mae'r Cymrodyr rydyn ni'n eu cyhoeddi heddiw yn ychwanegu at hyn drwy ddod â'r ystod fwyaf anhygoel o sgiliau, deallusrwydd a phrofiad. Mae gallu manteisio ar eu harbenigedd cyfunol i gefnogi'r gwaith rydyn ni’n ei wneud yn golygu y gallwn gael effaith go iawn fel ffynhonnell o gyngor dibynadwy sy'n seiliedig ar dystiolaeth."
Mae ymchwil yr Athro Collishaw yn edrych ar ddatblygiad dynol yn ystod oes gyfan i astudio problemau iechyd meddwl cyffredin gan gynnwys iselder a gorbryder. Mae'n casglu data cyfredol gan grwpiau poblogaeth i astudio datblygiad problemau iechyd meddwl ar draws plentyndod, glasoed ac oedolaeth.
Mewn ymateb i'r anrhydedd hwn, roedd yr Athro Collishaw yn ddiolchgar am gydnabod ei waith a dywedodd pa mor bwysig yw hyrwyddo creadigrwydd a dysgu yn y celfyddydau a'r gwyddorau Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn hynod werthfawr i Gymru.
Darllenwch fwy am gymrodyr newydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru a Chanolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc.