Newid y dyfodol
7 Mai 2024
Partneriaethau cymunedol newydd ar fin ffynnu yng Nghanolfan Treftadaeth CAER
Dechrau partneriaethau sy’n creu cyfleoedd i ddysgu yng nghymunedau Caerau a Threlái, yn rhan o’r datblygiadau diweddaraf yng Nghanolfan Treftadaeth CAER
Ar ôl dilyn y Llwybr at Archaeoleg yn y Ganolfan Dysgu Gydol Oes yn 2015, symudodd Tom Hicks (BA 2018, MA 2023) ymlaen at raglen israddedig ym Mhrifysgol Caerdydd cyn astudio ar gyfer ei radd meistr ym maes Archaeoleg. Erbyn hyn, mae Tom yn ôl ac yn creu partneriaethau cymunedol newydd yn rhan o’i swydd newydd yn y ganolfan o’r radd flaenaf.
Sefydlwyd prosiect Treftadaeth CAER yn 2011 gyda’r nod o ganolbwyntio ar waith ymchwil un o’r safleoedd treftadaeth mwyaf trawiadol yng Nghymru, nad yw’n cael ei werthfawrogi ddigon – Bryngaer Caerau. Yn 2021, adeiladwyd canolfan gymunedol newydd ac atyniad i ymwelwyr ger y safle.
Bydd Tom, o Dredelerch, yn meithrin partneriaethau presennol a newydd rhwng y ganolfan, y gymuned leol, ystod o bartneriaid cymunedol, a Phrifysgol Caerdydd. Bydd ei waith yn canolbwyntio’n benodol ar gefnogi’r broses o sefydlu’r ganolfan yn hwb dysgu yng nghymunedau Caerau a Threlái .
Mae Tom, sydd wedi cymryd rhan yng ngwaith cloddio’r prosiect ers 2015, wedi cloddio ar safle Bryngaer Caerau a safleoedd cyfagos, gan gynnwys darganfod y tŷ hynaf yng Nghaerdydd y llynedd.
Wrth sôn am faint roedd yn edrych ymlaen at ddechrau ei swydd newydd, dywedodd Tom:
“Mae prosiect Treftadaeth CAER wedi cael effaith aruthrol arna’ i ers fy mhrofiad cyntaf ohono yn 2015 yn wirfoddolwr. Y prosiect wnaeth fy ysgogi i ddechrau astudio ym Mhrifysgol Caerdydd. Dw i wedi bod yn rhan o’r gwaith cloddio ers hynny, ac alla i ddim aros i adeiladu ar yr ymwneud hwn, gan gyfrannu at lwyddiant parhaus y prosiect a datblygu’r cydweithredu rhwng Treftadaeth CAER, cymunedau Caerau a Threlái, a Phrifysgol Caerdydd.”
Ychwanegodd Dr Paul Webster, sy’n arwain y Llwybr at Hanes, Archaeoleg neu Grefydd (Archwilio'r Gorffennol):
“Hoffwn i longyfarch Tom ar ei swydd newydd. Bydd Tom yn dod â llawer o wybodaeth, profiad ac empathi i’r swydd. Mae gan Tom brofiad personol o fod yn ddysgwr sy’n oedolyn ac ymwneud â phrosiectau yn y gymuned. Edrychwn ymlaen at glywed sôn am y prosiectau cyffrous y bydd Tom yn ymwneud â nhw gyda thîm Treftadaeth CAER!”
Rhagor o wybodaeth am brosiect Treftadaeth CAER ar gael yma
Rhagor o wybodaeth am y Llwybr at Hanes, Archaeoleg a Chrefydd ar gael yma