Ewch i’r prif gynnwys

Ysgol Pensaernïaeth Cymru i gynnal Symposiwm Technegol Sefydliad Siartredig y Peirianwyr Gwasanaethau Adeiladu (CIBSE) 2024.

7 Mai 2024

CIBSE Technical Symposium 2024

Ysgol Pensaernïaeth Cymru gafodd ein dewis i gynnal symposiwm 2024, dan y teitl ‘Addas ar gyfer 2050 - Darparu adeiladau a diffinio perfformiad am amgylchedd adeiledig sero net’. Daeth hyn yn sgil ein llwyddiant yng Ngwobrau Cyflawniad CIBSE yn 2023 lle enillom 3 gwobr, yn ogystal â’n gwaith ymchwil hirdymor sefydledig, a’n gweithgarwch ysgolheigaidd sy’n canolbwyntio ar adeiladau carbon isel a sero-net.

Dros ddeuddydd ym mis Ebrill, daeth gweithwyr proffesiynol, academyddion ac ymchwilwyr ynghyd i drin a thrafod pynciau megis rôl y chwyldro digidol, effeithiau newid hinsawdd, iechyd a lles preswylwyr, a diogelwch adeiladau yn y sector gwasanaethu adeiladau.  

Gydag ystod amrywiol o gyflwyniadau a thrafodaethau panel, rhoddodd y symposiwm gipolwg ar y gwaith a’r ymchwil arloesol sy’n llunio’r dyfodol yng nghyd-destun yr amgylchedd adeiledig. O archwilio dulliau newydd o leihau allyriadau carbon, i ddefnyddio potensial technolegau digidol ar gyfer optimeiddio perfformiad adeiladau, roedd y symposiwm yn arddangos yr ysbryd cydweithredol a'r ffyrdd o feddwl arloesol sy'n gyffredin yn y maes hwn.  

Meddai Jo Patterson, Cyfarwyddwr Ymchwil Ysgol Pensaernïaeth Cymru a chyd-drefnydd Symposiwm Technegol CIBSE, “Profiad ysbrydoledig oedd cael dod at ein gilydd am ddeuddydd gydag ystod eang o bobl oedd yn dangos brwdfrydedd amlwg i fwrw ymlaen gyda’r agenda sero-net. Mae cydweithio a chyfathrebu yn allweddol i gefnogi hyn, yn enwedig o ystyried pa mor gyflym y mae angen i ni gyflawni hyn.’’

Hoffem ddiolch i’r Athro Patterson, Dr Emmanouil Perisoglou, a Chyfarwyddwr Technegol CIBSE, Dr Anastasia Mylona a’i thîm am eu hymdrechion wrth gydlynu’r digwyddiad hwn.  

Fel dinas sy’n enwog am ei hymrwymiad i gynaliadwyedd, Caerdydd oedd y dewis amlwg i gynnal y symposiwm eleni. Ein gweledigaeth fel Ysgol yw hybu amgylchedd adeiledig cynaliadwy, fydd yn ei dro yn gwella lles cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.

Ymhlith ein casgliad o gyrsiau ôl-raddedig a addysgir, sydd wedi’u cynllunio i ysbrydoli amgylcheddau adeiledig cynaliadwy, mae rhaglenni mewn Dylunio Adeiladau’n Amgylcheddol , Cadwraeth Adeiladau Cynaliadwy a Mega-Adeiladau Cynaliadwy.