Ewch i’r prif gynnwys

Dr Lu Zhuo yn ennill Grant Cyfnewid Rhyngwladol y Gymdeithas Frenhinol ar gyfer ymchwil ar y cyd.

7 Mai 2024

Mae Dr Lu Zhuo wedi ennill grant Cyfnewid Rhyngwladol y Gymdeithas Frenhinol, grant sy’n llawn bri, i ysgogi datblygiad ymchwil newydd ar y cyd â Phrifysgol Technoleg Chengdu yn Tsieina.

Mae grantiau Cyfnewid Rhyngwladol yn cynnig cefnogaeth i wyddonwyr yn y DU i ddatblygu ymchwil newydd ar y cyd â gwyddonwyr blaenllaw mewn gwledydd tramor. Cynhelir astudiaeth Dr Lu Zhuo, “Asesu Effeithiau Gwynt a Glawiad ar Ddirywiad Sefydlogrwydd Gogwydd Pontydd mewn Tirwedd Fynyddig” gan gydweithwyr ym Mhrifysgol Caerdydd a Phrifysgol Technoleg Chengdu rhwng mis Mawrth 2024 a mis Chwefror 2026.

Mae Tsieina, lle ceir nifer o bontydd enfawr, yn gorfod mynd i'r afael â ffenomenau tywydd eithafol di-baid fel gwyntoedd ffyrnig a glaw trwm iawn. Mae tywydd o’r fath yn fygythiad sylweddol i’r pontydd eu hunain, ond hefyd i gymunedau cyfagos ac i weithgarwch masnachol. Mae nifer o bontydd hefyd yn wynebu tywydd garw a newidiol yn y DU, sy’n creu angen tebyg i ddeall sut mae gwynt a lleithder y pridd yn gallu effeithio ar sefydlogrwydd pontydd. Fodd bynnag, mae amodau amgylcheddol yn amrywio yn ôl safleoedd pontydd, ac nid yw'n glir y gellir cymhwyso canlyniadau o un safle mewn safle arall.

Bydd Dr Zhuo a'i thîm yn defnyddio technegau mesur meysydd, modelu tywydd uwch, synhwyro o bell gan ddefnyddio lloeren, a dull Deinameg Hylif Cyfrifiadurol i greu efelychiad cyfrifiadurol manwl gywir o gyflymder a chyfeiriad y gwynt. Bydd hyn yn cynnig gwybodaeth fanwl gywir am leithder pridd ar dirwedd fynyddig. Gan gyfuno'r dulliau hyn â phrofion ffisegol arbrofol, bydd y prosiect yn creu gwell dealltwriaeth o’r modd y mae gwynt a glawiad yn effeithio ar gryfder gogwydd pontydd.

Meddai Dr Zhuo, "Rwy'n edrych ymlaen at ddechrau cydweithio gyda Phrifysgol Technoleg Chengdu, gan ganolbwyntio ar sut mae gwynt a glawiad yn effeithio ar gryfder gogwydd pontydd. Bydd y wybodaeth hanfodol hon yn gwella arferion peirianneg pontydd mewn tirweddau cymhleth."

Trwy ddarganfod sut mae ffenomenau tywydd yn effeithio ar y tirweddau o amgylch pontydd, bydd gwaith Dr Zhuo yn esgor ar wybodaeth amhrisiadwy fydd yn hanfodol er mwyn gwella gwytnwch seilwaith hanfodol mewn rhanbarthau mynyddig ledled y byd.

Mae Dr Lu Zhuo yn Ddarlithydd mewn Synhwyro o Bell a Systemau Amgylcheddol yn Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae ei hymchwil yn pontio peirianneg, gwyddoniaeth a'r gwyddorau cymdeithasol, ac yn dadansoddi effeithiau peryglon naturiol ac amodau tywydd eithafol ar gymdeithasau.

Rhannu’r stori hon