Ewch i’r prif gynnwys

Athro Emeritws yw seren y sioe The Life Scientific

7 Mai 2024

Yr Athro Mike Edmunds (chwith yn y llun) gyda'r cyflwynydd yr Athro Jim Al-Khalili.

Cyn-bennaeth yr Ysgol, yr Athro Mike Edmunds yn ymddangos ar raglen am fywyd a gwaith gwyddonwyr nodedig ar BBC Radio 4.

Cafodd dehongli galaethau ac arteffactau seryddol hynafol eu trafod gan yr Athro Edmunds, a’r ffisegydd damcaniaethol Jim Al-Khalili yn y rhaglen The Life Scientific, a gafodd ei darlledu ar Ebrill 23 ar BBC Radio 4.

Myfyriodd yr Athro Edmunds yn ôl ar ei yrfa ymchwil ac addysgu, sydd wedi ymestyn dros chwe degawd, yn ogystal â'i sioe un dyn am Syr Isaac Newton.

Yn ystod y rhaglen, rhannodd yr Athro Edmunds stori ddoniol gyda’r Athro Al-Khalili am sut yr oedd ganddo ddiddordeb mewn arbenigo mewn meteoroleg i ddechrau, ond penderfynodd y byddai seryddiaeth yn fwy diogel, pan gafodd wybod bod rhaid iddo hedfan gleider i storm o fellt a tharanau yn rhan o brosiect ar ôl bod yn y Brifysgol.

Daeth y syniad o sioe i fodolaeth yn fuan ar ôl iddo gwrdd â’i wraig yng ngorsaf Paddington.

‘’Arbennig o dda’’ oedd disgrifiad yr Athro Edmunds i gwestiwn yr Athro Al- Khalili am enw da’r DU am seryddiaeth, gan drafod rôl Prydain ym mhrosiectau telesgopau radio’r Extremely Large Telescope a’r Square Kilometer Array.

Roedd hoffter yr Athro Edmunds o addysgu yn amlwg. Dywedodd bod tair elfen i lwyddiant, sef brwdfrydedd am y pwnc, ennyn diddordeb, a galluogi myfyrwyr i ddysgu yn y cyd-destun gorau, a chynnig ymarferion ymarferol.

Bu hefyd yn trafod ei ddylanwadau mwyaf, ei fagwraeth a’i gamau cyntaf i seryddiaeth, gan ddatgelu nad oedd ganddo erioed delesgop yn blentyn.

Canolbwynt gyrfa ymchwil yr Athro Edmunds yn benodol oedd pennu a dehongli cyflenwadau o elfennau cemegol yn y bydysawd, ac archwilio i darddle llwch rhyngserol. Canolbwynt ei waith mwyaf diweddar yw hanes seryddiaeth.

Yn gyn-bennaeth yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth, erbyn hyn mae’n Athro Emeritws Astroffiseg y Brifysgol.

Daeth yr Athro Edmunds yn llywydd y Gymdeithas Seryddol Frenhinol (RAS) yn 2022, sef cymdeithas ddysgedig y DU ar gyfer seryddiaeth a gwyddoniaeth y system solar.

Cafodd ei addysgu ym Mhrifysgol Caergrawnt, ac mae wedi byw a gweithio yng Nghymru ers dros 35 o flynyddoedd.

Cafodd y rhaglen ei recordio o flaen cynulleidfa stiwdio ym Mhencadlys RAS yn Burlington House, Llundain ym mis Mawrth.

Gwrandewch ar y rhaglen eto ar BBC Sounds (dolen). Mae podlediad estynedig hefyd ar gael i'w lawrlwytho trwy BBC Sounds neu ar wefan y rhaglen .

Rhannu’r stori hon