Ewch i’r prif gynnwys

Aeth Dr Alex George ati i ‘godi cwr’ y llen ar yr heriau iechyd meddwl y bydd pobl ifanc yn eu hwynebu

14 Mai 2024

Dr Alex George

Mae Dr Alex George, yr awdur hynod o boblogaidd a Llysgennad Iechyd Meddwl Pobl Ifanc Llywodraeth y DU, wedi rhoi darlith gyntaf Sgyrsiau Caerdydd Prifysgol Caerdydd, gan dynnu sylw at yr heriau iechyd meddwl y bydd pobl ifanc yn eu hwynebu.

Yn y digwyddiad, a gynhaliwyd ddydd Mercher 8 Mai yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr, 300 o bobl yn y Ganolfan ei hun a mwy na 100 a oedd yn gwylio ar-lein ar ffrwd fyw.

Yn ystod y digwyddiad, taflodd Alex oleuni ar ei brofiadau proffesiynol a phersonol o heriau iechyd meddwl, gan bwysleisio ei ymrwymiad i chwalu’r stigma sy’n gysylltiedig ag ef. Trafododd yr angen dybryd i wella gwasanaethau iechyd meddwl cenedlaethau’r dyfodol, ynghyd ag eirioli dros ehangu Canolfannau Cymorth Cynnar ledled y DU.

Yn dilyn ei brif anerchiad, ymunodd Alex â thri academydd iechyd meddwl blaenllaw o Brifysgol Caerdydd - yr Athro Frances Rice, yr Athro Anita Thapar, a Dr Olakunle Oginni - i gynnal panel arbenigol a sesiwn holi ac ateb. Taflodd y panel oleuni arbenigol ar iechyd meddwl pobl ifanc, gan ateb cwestiynau o safbwynt ymchwil a gwyddonol, gan dynnu sylw at yr ymchwil arloesol ym maes iechyd meddwl a niwrowyddoniaeth sy'n digwydd ledled y Brifysgol.

Ar ddiwedd y digwyddiad, cafwyd arddangosfa ymchwil a roddodd y cyfle i’r sawl a ddaeth ynghyd ddysgu rhagor am y gwaith helaeth ym meysydd iechyd meddwl a niwrowyddoniaeth sy'n digwydd ledled y Brifysgol.  Roedd arbenigwyr nifer o ganolfannau ymchwil y Brifysgol yn bresennol , gan gynnwys y Sefydliad Arloesi er Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl , Canolfan Wolfson er Iechyd Meddwl Pobl Ifanc, y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl, y Ganolfan er Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig, DECIPHer,  Y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion, ac Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd, yn ogystal â chynrychiolwyr o dimau Codi Arian Cymunedol a Bywyd Preswyl y Brifysgol.

Mae Alex wedi mynd yn enw adnabyddus ac uchel ei barch ymhlith gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn y DU yn sgil ymarfer am flynyddoedd yn feddyg damweiniau ac achosion brys pan fyddai’n rhoi cyngor hawdd ei ddeall a thawelwch meddwl i'r genedl yn uniongyrchol o'r rheng flaen yn ystod y pandemig. Mae wedi cyhoeddi tri llyfr sydd wedi cyrraedd rhestr The Sunday Times o’r llyfrau sy’n gwerthu orau, a chyhoeddodd ei bedwerydd llyfr ym mis Ionawr 2024. Ef hefyd yw cyd-sylfaenydd Mettle, sef yr ap ffitrwydd meddwl i ddynion.

Hoffwn i ddweud diolch yn fawr iawn i bawb ym Mhrifysgol Caerdydd a ddaeth i'r sgwrs. Peth gwych oedd cwrdd â chynifer o bobl a gweld cynifer yn y gynulleidfa. Mwynheuais i'r cyfan yn fawr iawn! Cawson ni rai cwestiynau anhygoel a phanel gwych, a pheth hyfryd oedd gweld cynifer o bobl yn siarad am iechyd meddwl.
Dr Alex George

Yn y gyfres newydd o ddarlithoedd Sgyrsiau Caerdydd, bydd siaradwyr gwadd ac ymchwilwyr y Brifysgol yn dod ynghyd i drafod ac amlygu’r heriau pwysig sy’n wynebu’r gymdeithas a sut y gellir datrys y rhain.

Dyma a ddywedodd yr Athro Roger Whitaker, Rhag Is-Ganghellor Ymchwil, Arloesi a Menter y Brifysgol: "Rydyn ni’n falch iawn o groesawu Dr Alex George i Brifysgol Caerdydd. Mae ymroddiad ac arbenigedd Alex yn y maes hwn yn addo ysgogi trafodaethau diddorol ac ysbrydoli dulliau arloesol o gefnogi lles cenedlaethau’r dyfodol."

Mae sicrhau iechyd meddwl cenedlaethau’r dyfodol yn fater dybryd. Mae ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd yn gweithio i ddeall yr heriau hyn ym maes iechyd meddwl – boed yn ddylanwadau cymdeithasegol, safbwyntiau seicolegol neu’r hyn sy’n digwydd ar y lefelau cellog lleiaf – i helpu i ddatblygu triniaethau ac ymyraethau effeithiol yn y dyfodol.
Yr Athro Roger Whitaker Rhag Is-Ganghellor Ymchwil, Arloesi a Menter

Y Sefydliad Arloesi er Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl gynhaliodd y digwyddiad. Mae'r sefydliad yn dod ag ymchwilwyr blaenllaw a gweithwyr meddygol proffesiynol ynghyd i ddod o hyd i ddarganfyddiadau newydd ym maes anhwylderau iechyd meddwl a niwrolegol.

Dyma a ddywedodd yr Athro Lawrence Wilkinson, Cyd-gyfarwyddwr y Sefydliad Arloesi er Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl: "Ar ran y Sefydliad a’r gymuned ymchwil ehangach yn y Brifysgol, mae’n bleser gennym gynnal darlith gyntaf Sgyrsiau Caerdydd yng nghwmni ein siaradwr gwadd Dr Alex George."

Mae’r ffocws ar iechyd meddwl pobl ifanc yn cyd-fynd ag un o’n prif feysydd ymchwil lle mae’n glir bod creu sylfeini cadarn yn ystod y blynyddoedd cynnar yn hollbwysig i sicrhau iechyd meddwl da a gwydnwch er mwyn ymdopi â straen yn ystod eich oes.
Yr Athro Lawrence Wilkinson Cyd-gyfarwyddwr y Sefydliad Arloesi er Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl

Ac yntau’n noddwr y Sefydliad Arloesi er Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl, rhoddodd y darlledwr, y digrifwr a’r awdur Stephen Fry groeso i Alex drwy fideo gan ddweud: “Mae’r materion y bydd y digwyddiad hwn yn eu trafod o bwys mawr i mi. Roeddwn i wrth fy modd yn cael fy enwi’n noddwr swyddogol y Sefydliad dros 10 mlynedd yn ôl. Cenhadaeth y Sefydliad hwn yw harneisio ymchwil unigryw a blaenllaw Prifysgol Caerdydd i wella bywydau cleifion a'u teuluoedd. Rwy’n siŵr bod pob un ohonon ni, fwy na thebyg, yn adnabod rhywun ifanc sy’n dioddef mewn rhyw ffordd...felly dyma genhadaeth bwysig i bawb.”

Dyma a ddywedodd yr Athro Frances Rice: “Mae gan gynifer o bobl aelod o’r teulu neu rywun sy’n agos atyn nhw y mae problemau iechyd meddwl cyffredin megis gorbryder ac iselder wedi effeithio arno. Mae fy ymchwil yn canolbwyntio ar ddeall y ffactorau risg ac amddiffynnol ynghlwm wrth iselder, gan ddatblygu ymyraethau ataliol i drin iselder ymhlith pobl ifanc. Mae’n bleser gen i groesawu Dr Alex George i’r Brifysgol i ddechrau’r drafodaeth am iechyd meddwl pobl ifanc.”

Dyma a ddywedodd yr Athro Anita Thapar: “Materion hynod o bwysig yw problemau iechyd meddwl ymhlith pobl ifanc megis iselder a niwrowahaniaeth fel Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD), gan y gallwn ni helpu i roi pobl ifanc ar y trywydd iawn i gael dyfodol disglair drwy eu deall a’u cefnogi’n well yn ogystal â llunio ymyraethau ar eu cyfer. Dyma gyfle gwych i weithio gyda Dr George i dynnu sylw at ymchwil sy’n ymdrin â hyn."

Dyma a ddywedodd Dr Olakunle Oginni, hyfforddai seiciatreg plant a’r glasoed ac un o Ymchwilwyr ar Ddechrau eu Gyrfa cynllun Cymrodoriaeth Academaidd Glinigol Cymru: “Yn y digwyddiad hwn, rydyn ni’n cydnabod bod mynd i’r afael â’r heriau unigryw y mae pobl ifanc yn eu hwynebu heddiw o bwys mawr. Drwy gael sgyrsiau fel hyn, gallwn ni weithio gyda’n gilydd i hybu lles meddwl cadarnhaol ymhlith pobl ifanc.”

Gallwch chi ddal i fyny ar holl ddigwyddiadau'r digwyddiad ar X/Twitter: https://twitter.com/iamcardiffuni/status/1788477923281785291