Cydnabod aelod o staff academaidd Ysgol Busnes Caerdydd am bapur ymchwil rhyngwladol
1 Mai 2024
Mae Dr Jonathan Preminger wedi derbyn gwobr anrhydeddus gan y Labour and Employment Relations Association (LERA) am ei waith ymchwil i’r tensiynau a’r gydfodolaeth rhwng neoryddfrydiaeth ac ethnogenedlaetholdeb ym maes perthnasoedd diwydiannol.
Dr Preminger, a’i gyd-awdur Dr Assaf Bondy o Brifysgol Bryste, sydd wedi ennill Gwobr James G. Scoville am y papur ymchwil rhyngwladol gorau, o’r enw ‘Conflicting imperatives?’ Ethnonationalism and neoliberalism in industrial relations.’
Mae’r wobr hon yn cael ei dyfarnu gan aseswyr, ac mae’n dathlu’r papur ymchwil ‘mwyaf rhagorol’ ar faterion cyflogaeth ryngwladol a chymharol.
Cafodd y wobr hon ei sefydlu ar y cyd gan Ganolfan Adnoddau Dynol ac Astudiaethau Llafur Prifysgol Minnesota er anrhydedd i aelod hir-dymor o LERA , yr Athro James G. Scoville, ar ei ymddeoliad.
Dywedodd Cadeirydd Pwyllgor LERA, Ian Greer: ‘’Roedden ni wedi ein plesio’n fawr gan y cyfraniad damcaniaethol - gall tensiynau a chydfodolaeth rhwng neoryddfrydiaeth ac ethnogenedlaetholdeb fod yn syniad heriol i feddwl yn glir amdano. Mae cyd-destun Israel/Palesteina hefyd yn bwysig iawn, rhywbeth sydd ar flaen meddwl aelodau’r pwyllgor ar hyn o bryd.”
Mae'r papur yn trafod y tensiynau cyffredin sy’n bodoli mewn gwledydd sydd ag economïau marchnad ryddfrydol, ble mae gwrthdaro rhwng eisiau dod â gweithwyr mudol i mewn i’r wlad i weithio am gyflog isel, ac eisiau cadw pobl allan sydd ddim yn cael eu hystyried yn rhan o ‘gymuned’ y wlad. Pan fydd gwlad yn diffinio ei chymuned ar sail ethnigrwydd, mae'r gwrthdaro hwn yn gryfach fyth.
Mae’r awduron yn awgrymu y gall deall y tensiynau hyn esbonio’r penderfyniadau a’r camau gan sefydliadau a phobl amrywiol, gan gynnwys cyrff sy’n gysylltiedig â’r wladwriaeth, a'i fod yn fframwaith defnyddiol i ddadansoddi cyflogaeth y rhai sydd ddim yn ddinasyddion.
I geisio egluro hyn, maen nhw’n edrych ar weithwyr o Balesteina yn mynd i Israel i weithio yn y sector adeiladu. Mae Israel yn gymuned ethnogenedlaetholdeb wleidyddol gref, gyda chyfran uchel o’r llafur yn y sector adeiladu yn Balesteiniaid o’r tiriogaethau meddianedig. Felly, oherwydd hyn, mae’r gweithwyr yn cael eu hystyried yn ddieithriaid, neu elynion hyd yn oed. Er gwaethaf hyn, mae eu gwaith yn hollbwysig.
Mae'r awduron yn dadansoddi sut mae'r tensiynau rhwng eisiau eithrio rhai grwpiau, wrth ddibynnu arnyn nhw am eu llafur yn helpu i egluro camau gweithredu gan gyrff y wladwriaeth, sefydliadau cyflogi, undebau llafur a pholisïau sy’n rheoli symudiadau pobl Palesteina i Israel ac o fewn Israel.
Darllenwch y papur yn llawn: Conflicting imperatives? Ethnonationalism and neoliberalism in industrial relations