Ewch i’r prif gynnwys

Cydnabod Arbenigedd

1 Mai 2024

Rhai Aelodau’r Staff yn cael eu henwi’n Gymrodyr Cymdeithas Ddysgedig Cymru

Mae 13 aelod o staff academaidd, sy’n cynrychioli sawl disgyblaeth yn y Brifysgol, ymhlith yr rheiny sydd wedi cael eu hethol yn Gymrodyr newydd i Gymdeithas Ddysgedig Cymru.

Eleni, mae academi genedlaethol y celfyddydau a'r gwyddorau wedi ethol 43 o Gymrodyr newydd, a phob un ohonynt yn cynrychioli'r gorau o fywyd academaidd, diwylliannol a dinesig Cymru.

Mae staff Prifysgol Caerdydd yn cyfrif am fwy na chwarter y garfan newydd eleni, gyda chynrychiolaeth gref ar draws y celfyddydau, y dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol.

Ymhlith y rhestr eleni mae’r Athro Wendy Larner, sy’n ddaearyddwr dynol, Llywydd ac Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd.

Llongyfarchiadau i

Dr Lloyd Bowen, Darllenydd mewn Hanes Modern Cynnar a Chymreig, Yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd

Yr Athro Graeme Garrard, Athro Gwleidyddiaeth, Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth

Yr Athro William Housley, Cadeirydd mewn Cymdeithaseg, Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol

Dr Savyasaachi Jain, Darllenydd mewn Newyddiaduraeth a Rhaglenni Dogfen, Yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant

Yr Athro Wendy Larner, Llywydd ac Is-Ganghellor

Yr Athro Radhika Mohanram, Athro Astudiaethau Ôl-drefedigaethol, Yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth

Yr Athro Clair Rowden, Athro Cerddoleg, Yr Ysgol Cerddoriaeth

Dyma a ddywedodd yr Athro Hywel Thomas, Llywydd y Gymdeithas:

“Mae cyhoeddi ein Cymrodyr newydd wastad yn uchafbwynt y flwyddyn i’r Gymdeithas. "Mae gwaith y Gymdeithas, y byrddau crwn arloesedd rydym yn eu cynnal, a’n Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar i gyd wedi'u hadeiladu ar wybodaeth a chyfraniadau ein Cymrodyr. Mae gallu manteisio ar eu harbenigedd cyfunol i gefnogi'r gwaith a wnawn yn golygu y gallwn gael effaith wirioneddol fel ffynhonnell o gyngor dibynadwy sy'n seiliedig ar dystiolaeth."

Cymerwch olwg ar y rhestr o’n Cymrodyr newydd, ble maen nhw’n gweithio a'u meysydd arbenigedd.

Rhannu’r stori hon