Tîm ymchwil Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol yn chwarae rhan wrth gyrraedd targed allyriadau sero net rhyngwladol
29 Ebrill 2024
Mae ymchwilwyr yn Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd yn cymryd rhan ym mhrosiect ALCHIMIA a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd.
Nod y prosiect yw datblygu platfform digidol sy'n defnyddio deallusrwydd artiffisial (dysgu peiriannol) a Data Mawr i wneud dur ffwrnais arc trydan (EAF), sef modd o wneud dur o fetel sgrap, hyd yn oed yn fwy cynaliadwy.
Mae Dr Dean Stroud, Dr Martin Weinel a Dr Rachel Hale yn rhan o raglen ymchwil Horizon 2020. Mae’r rhaglen, sy’n werth sawl biliwn ewro, yn ariannu’r prosiect ALCHIMIA.
Derbyniodd ALCHIMIA €3.5 miliwn yn 2020. Bydd hyn yn caniatáu i gorfforaethau dur wneud y gorau o brosesau gwneud dur er mwyn lleihau'r metel sgrap, ynni, a dŵr a ddefnyddir yn y broses, yn ogystal â'r allyriadau sy'n gysylltiedig â'r diwydiant sy’n ddwys o ran ynni a llygredig hwn.
Gwnaeth y tîm ddatblygu gofynion cymdeithasol ac argymhellion sy’n canolbwyntio ar bobl o ddata a gynhyrchwyd gan dîm ymchwil Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol yn 2023. Bydd y rhain yn llywio dyluniad y platfform digidol.
Bydd hyn yn helpu yn yr ymdrech i gyrraedd sawl un o Nodau Datblygu Cynaliadwy (NDCau) y Cenhedloedd Unedig yn ogystal â thargedau allyriadau nwyon tŷ gwydr sero net rhyngwladol.
Dywedodd Dr Stroud, “Mae'n bleser mawr cael cynnal cyfarfod prosiect ALCHIMIA yng Nghaerdydd. Gwnaeth Adeilad Morgannwg argraff fawr ar y rhai a oedd yn bresennol, yn ogystal â'r croeso i Brifysgol Caerdydd a rhoddon ni iddyn nhw.
Cyn gweithredu’r platfform ALCHIMIA, cynhaliodd y tîm gyfweliadau, arsylwadau ac arolygon gyda rheolwyr a gweithwyr dur mewn gweithfeydd dur yn Sbaen, Ffrainc, Gwlad Pwyl a'r Eidal.
Croesawodd y tîm bartneriaid prosiect ALCHIMIA i Adeilad Morgannwg ar gyfer cyfarfod cynulliad cyffredinol chwe-misol y prosiect.
Daeth pymtheg partner i’r cyfarfod wyneb yn wyneb, a’r rheini o Sbaen, yr Eidal, y Swistir, yr Almaen a Gwlad Groeg, gydag wyth arall yn bresennol ar-lein.
Roedd y cyfarfod yn gyfle i ddatblygu’r prosiect a gofynion technegol y platfform digidol gan ystyried yr argymhellion sy’n canolbwyntio ar bobl a gyflwynwyd gan y tîm o Gaerdydd.
Bydd y gofynion cymdeithasol a'r argymhellion sy’n canolbwyntio ar bobl yn helpu i sicrhau bod y corfforaethau, rheolwyr a gweithwyr dur yn ymddiried yn y platfform ac yn ei dderbyn.