Sut y gallai cwyr gwenyn helpu teuluoedd mewn parthau rhyfel
20 Mai 2024
Yn ôl gwyddonwyr o Brifysgol Caerdydd a Sefydliad Polytechnic Kharkiv, Wcráin, gallai cwyr gwenyn a pherlysiau lleol chwarae rhan hanfodol wrth helpu teuluoedd sy'n byw mewn mannau lle ceir gwrthdaro i storio bwyd.
Mae'r Athro Les Baillie o Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Caerdydd wedi gweithio gyda Dr Yudina Yuliia o’r Brifysgol Fferylliaeth Genedlaethol, Sefydliad Polytechnic Kharkiv, i ddatblygu lapeidiau bwyd gwrthficrobaidd drwy ddefnyddio eitemau cartref a chwyr gwenyn. Mae’r rhain yn gallu cynnig ffyrdd gwrthficrobaidd o storio bwyd mewn ardaloedd yn Wcráin lle mae goresgyniad Rwsia wedi effeithio ar y cyflenwad pŵer.
Gyda'i gilydd mae'r gwyddonwyr wedi creu pecyn y gellir ei ddefnyddio yn Wcráin yn ogystal â pharthau eraill ledled y byd lle ceir gwrthdaro. Mae'r pecyn yn helpu'r cyhoedd i greu eu lapeidiau bwyd eu hunain drwy ddefnyddio cwyr gwenyn i gadw bwyd yn ffres pan nad oes pŵer trydanol ar gael.
Dywedodd yr Athro Les Baillie o Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Caerdydd: “Yn aml, mae’r bobl sy'n byw mewn ardaloedd lle ceir gwrthdaro yn dibynnu ar fwyd a chymorth a anfonir atynt. Nid yw’r rhain yn aros yn ffres, yn enwedig pan fydd rhywbeth yn tarfu ar y cyflenwad pŵer, gan olygu bod storio bwyd yn gallu bod yn broblem enfawr. Mae ymosodiadau ar y seilwaith pŵer yn Wcráin yn amlygu’r ffaith fod angen dulliau rhad o storio bwyd nad ydynt yn dibynnu ar bŵer trydanol ar deuluoedd mewn parthau rhyfel.
“Mae lapeidiau brethyn traddodiadol wedi’u defnyddio ers y 7fed ganrif CC er mwyn gwneud i fwyd bara’n hirach. Felly, roeddem yn gallu cyfuno hyn â'n dealltwriaeth o briodweddau gwrthficrobaidd cynhyrchion sy'n deillio o wenyn i greu ffordd o storio bwyd.”
Canolbwyntiodd y tîm ar ddefnyddio propolis, deunydd tebyg i resin a wneir gan wenyn o goed, a chwyr gwenyn. Roedd hyn oherwydd eu priodweddau gwrthficrobaidd naturiol drwy ddefnyddio deunyddiau cartref fel ffabrigau cotwm, papur a chardfwrdd cadw bwyd, y gellir wedyn eu trwytho â chwyr gwenyn, propolis a pherlysiau sydd â phriodweddau gwrthficrobaidd, fel saets.
Ychwanegodd Dr Yudina: “Mae cwyr gwenyn yn cadw dŵr allan, felly pan gaiff ei ddefnyddio mewn pecynnau, gall amddiffyn rhag lleithder. Ar ben hynny, rydym yn gwybod bod cwyr gwenyn yn effeithiol yn erbyn bacteria a ffyngau hefyd.
“Mae gan propolis, cynnyrch arall a wneir gan wenyn, amrywiaeth o rinweddau sy'n ddefnyddiol wrth storio bwyd, gan ei fod yn gynnyrch gwrthficrobaidd, gwrthffyngol, gwrthfeirysol, gwrthlidiol ac yn gwella clwyfau.
“Mae'r saets perlysiau cyffredin yn wych hefyd ar gyfer pecynnu bwyd oherwydd gwyddwn am ei effeithiau gwrthocsidiol, gwrthfacterol a gwrthffyngol adnabyddus, gan ychwanegu at effeithiau'r cwyr gwenyn yn sgîl hynny.”
Ar hyn o bryd mae'r tîm yn paratoi canllaw sy'n dangos sut i greu eu lapeidiau bwyd drwy ddefnyddio adnoddau sydd ar gael yn lleol ac y gellir eu rhannu'n rhwydd ymhlith teuluoedd sy'n byw yn Wcráin.