Dan y chwyddwydr: Cyflwyniad i Ddaeareg Strwythurol ar gyfer Archwilio a Mwyngloddio
29 Ebrill 2024
Croeso i’r nesaf yn ein cyfres o gyfweliadau â phobl sy’n ymwneud â rhai o gyrsiau DPP blaenllaw’r Brifysgol.
Yn y cyfweliad hwn, cawsom y pleser o siarad â’r Athro Tom Blenkinsop, academydd arweiniol Daeareg Adeileddol ar gyfer Mwyngloddio ac Archwilio (SGEM), i drafod pam y daeth y cwrs hwn i fodolaeth yn y lle cyntaf ac effaith yr hyfforddiant ar gyfranogwyr ac academyddion.
Beth oedd eich prif gymhelliant y tu ôl i ddatblygu’r cwrs hwn?
Ar ôl gweithio ym maes dadansoddi strwythurol dros y 30 mlynedd diwethaf, roeddwn i eisiau rhannu fy mhrofiad yn ehangach, yn enwedig o ran y dull systematig rydw i wedi’i ddatblygu i ddelio â strwythurau fel llinelliadau, plygiadau, a pharthau croeswasgu. Roedd cwrs byr ar-lein yn ddull cyfleus iawn, ac roedd hefyd yn golygu y gallwn fesur effaith fy ymchwil.
Beth sydd wedi eich synnu am lwyddiant y cwrs hwn?
Mae’r galw wedi ein syfrdanu, ac mae wedi rhagori ar yr holl ddisgwyliadau.
Ers i ni gynnal y cwrs cyntaf ym mis Mawrth 2020, mae’r Uned DPP wedi cofrestru bron i 450 o bobl o fwy nag 20 o wahanol wledydd, a hynny cyn belled ag Affrica ac Awstralia.
Yn ddiweddar, fe wnaethom ddarparu fersiwn bwrpasol ar gyfer cwmni mwyngloddio byd-eang blaenllaw, a doedden ni ddim wedi gweithio gyda’r cwmni yma o’r blaen. Daeth y cwmni atom ni ar ôl clywed am y cwrs gan siaradwr mewn cynhadledd ryngwladol.
Mae’r sesiynau byw wedi bod yn uchafbwynt arbennig, ac mae wedi darparu cyffyrddiad personol i gefnogi’r deunyddiau e-ddysgu.
Mae’n ddiddorol clywed am brofiadau a phroblemau daearegwyr o bob cwr o’r byd. Bydd datrys problemau ynglŷn â ble mae’r cyrff mwyn, a sut y cawsant eu ffurfio, yn hollbwysig i ddarparu’r mwynau sydd eu hangen ar gyfer sero net.
Tom, rydyn ni wedi siarad am yr effaith gadarnhaol y mae’r cwrs hwn wedi’i chael ar ei gyfranogwyr, fel dysgu daearegwyr sydd â lefelau amrywiol o brofiad sut i weithredu dull unedig a systematig o ddadansoddi strwythurol. Allech chi roi rhywfaint o wybodaeth i ni o sut mae’r cwrs wedi helpu i gefnogi eich gwaith academaidd yn ehangach?
Mae cymorth gan yr Uned DPP wedi fy ngalluogi i archwilio potensial y cwrs, cryfhau’r cysylltiadau presennol â’r diwydiant, a chreu perthnasoedd newydd. Er enghraifft, yn seiliedig ar fy null i, mae cwmni mwyngloddio rhyngwladol wedi addasu ei lifoedd gwaith, ac roeddwn i’n gallu dangos tystiolaeth o hyn yn fy nghyflwyniad llwyddiannus REF yn 2021, ‘Anelu am Aur’ (‘Going for Gold’).
Yn ystod y cyfnod clo, fe wnaethom sicrhau bod cynnwys y cwrs ar gael i fyfyrwyr israddedig i ategu eu profiad dysgu. Erbyn hyn, rydyn ni hefyd yn rhannu chwaer-gwrs SGEM (Cyflwyniad i Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol ar gyfer Gwyddonwyr y Ddaear a’r Amgylchedd) gyda myfyrwyr, gan wella eu profiad dysgu ymhellach ym Mhrifysgol Caerdydd.
Yn olaf, a oes unrhyw ddatblygiadau newydd ar y gweill?
Oes! Ar ddiwedd 2023, gyda chymorth gan yr Academi Dysgu ac Addysgu, fe wnaethom uwchraddio’r cwrs drwy ei symud i amgylchedd dysgu rhithwir diwygiedig y Brifysgol.
Bydd hyn yn gwella profiad y dysgwr yn sylweddol, gyda nodweddion craff newydd a thaith cwrs fwy cydlynol. Er enghraifft, bydd cynrychiolwyr nawr yn ei chael hi’n haws olrhain eu cynnydd drwy’r cwrs, a bydd y cynnwys yn cael ei gyflwyno mewn ffordd sy’n haws ei ddefnyddio.
Mae gennym gyrsiau wedi’u cynllunio ar gyfer 2024, ac rydyn ni’n cynllunio ymgyrch ryngwladol i gyrraedd sefydliadau newydd sydd â diddordeb yn y pwnc hwn.
May am hyn
A oes gennych ddiddordeb mewn daeareg strwythurol a sut y gellir ei defnyddio ar gyfer mwyngloddio / fforio? Gwyliwch y fideo hwn gan yr Athro Tom Blenkinsop yn disgrifio manteision ei gwrs byr ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus.
Cysylltu â ni
If you would like further information about this course any of the CPD activities on offer at the University, please contact our friendly team at the CPD Unit: