Ewch i’r prif gynnwys

Myfyrwyr Caerdydd yn cael llwyddiant yng Ngholocwiwm BCSWomen Lovelace

26 Ebrill 2024

Students Geneve (left) and Lakshmi (right) presenting their posters at the colloquium

Mae Colocwiwm Lovelace yn gynhadledd genedlaethol ar gyfer menywod israddedig ac MSc a myfyrwyr anneuaidd mewn cyfrifiadura.

Cafodd Geneve Purayil a Lakshmi Sikha o’r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg eu dewis ar gyfer y rownd derfynol yn eu grwpiau blwyddyn ddetholus ar gyfer y digwyddiad a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Lerpwl ar 4 Ebrill.

Aeth Geneve, myfyrwraig BSc Cyfrifiadureg ymlaen i ennill y wobr gyntaf yng nghategori'r Ail Flwyddyn am ei phoster, 'AI-lluminating Drug Discovery: Shedding Light on AI's Impact in Pharma.’

Archwiliodd poster Geneve y posibiliadau o ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial wrth ddarganfod cyffuriau a goblygiadau datblygiadau mewn Deallusrwydd Artiffisial ar y diwydiant fferyllol/microbioleg yn y dyfodol agos.

Dywedodd Geneve: "Roedd ennill y wobr gyntaf wedi rhoi gymaint o hyder i fi i ymchwilio ac egluro pynciau cyfrifiadura cymhleth mewn modd creadigol, ond hefyd y dilysiad mae pobl yn cael yn y maes rwy'n angerddol amdano, gan ddefnyddio data a chyfrifiadureg.

"Fodd bynnag, yr hyn a gafodd yr effaith fwyaf arna i oedd siarad â chystadleuwyr eraill am eu gwaith, yn enwedig myfyrwyr trydedd flwyddyn a myfyrwyr meistr a gweld yr hyn roedden nhw’n gallu ei gyflawni yn eu traethodau hir ac fe wnaeth hyn i mi edrych ymlaen at ddechrau fy ngwaith fy hun y flwyddyn nesaf."

Cyflwynodd Lakshmi, myfyriwr BSc Cyfrifiadureg yn ei blwyddyn gyntaf, boster o'r enw ‘Self Aware AI: Pro or Con', a oedd yn archwilio'r syniad o sefydlu fframweithiau rheoleiddio er mwyn lliniaru risgiau a berir gan ddatblygiadau mewn Deallusrwydd Artiffisial.

Dywedodd Lakshmi: "Roedd y profiad ges i yn y Colocwiwm yn anhygoel. Mae bod yn fyfyriwr Cyfrifiadureg blwyddyn gyntaf a bod yn rhan o ddigwyddiad a ddaeth â mwy na 100 o ymgeiswyr talentog ynghyd o wahanol brifysgolion ledled y DU yn foment arbennig i mi gan fy mod yn gorfod dysgu llawer am gyfleoedd technoleg a’i datblygiad, dyfodol roboteg a galluoedd menywod mewn technoleg.

"Hoffwn i longyfarch Geneve ar ennill y wobr gyntaf yn y categori Ail Flwyddyn. Roedd gweld cydweithiwr yn dod yn fuddugol a chynrychioli ein prifysgol yn foment i fod yn falch ohoni.

"Fe wnaeth y cyfle hwn fy nysgu i ehangu fy ngorwelion a'm helpu i ddarganfod fy niddordebau ynglŷn â thechnoleg. Rwy'n gobeithio bod ein profiadau yn ysgogi'r myfyrwyr eraill ac rydyn ni’n medru cynrychioli Prifysgol Caerdydd gyda grŵp llawer mwy y flwyddyn nesaf yn Glasgow."

Dechreuodd Colocwiwm BCSWomen Lovelace yn 2008 gyda'r nod o gefnogi ac annog menywod a myfyrwyr anneuaidd mewn cyfrifiadura a phynciau cysylltiedig. Nod y gynhadledd flynyddol yw darparu fforwm lle gall y myfyrwyr rannu eu syniadau a rhwydweithio, yn ogystal â chynnal sgyrsiau gan fenywod a phobl anneuaidd mewn cyfrifiadura, yn y byd academaidd a diwydiant.

Bydd y Colocwiwm BCSWomen Lovelace nesaf yn cael ei gynnal ar 16 Ebrill 2025 yn Glasgow a bydd cyflwyno crynodebau yn agor yn ddiweddarach eleni.

Rhannu’r stori hon