Prifysgol Caerdydd yn ymuno â Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd a phrifysgolion a cholegau lleol eraill er mwyn cydweithio yn y dyfodol
26 Ebrill 2024
Mae Prifysgol Caerdydd wedi llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth arloesol gyda Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd a sefydliadau Addysg Uwch ac Addysg Bellach eraill o Dde-ddwyrain Cymru, gan ffurfio fframwaith ar gyfer cydweithio yn y dyfodol yn seiliedig ar amcanion allweddol ar gyfer lles economaidd yn y Rhanbarth.
Y cytundeb yw’r cyntaf o'i fath yng Nghymru, gyda Phrifysgol Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, a Phrifysgol De Cymru yn ymuno â cholegau Addysg Bellach y Rhanbarth, gan gynnwys Merthyr Tudful, Coleg Gwent, Coleg Caerdydd a'r Fro, Coleg Y Cymoedd a Choleg Pen-y-bont ar Ogwr.
O ystyried y rhagoriaeth academaidd ac ymchwil sydd mewn ardal mor fach â De-ddwyrain Cymru, bydd y memorandwm cyd-ddealltwriaeth hwn yn sicrhau bod y rhanbarth ehangach yn gwireddu manteision gweithio ar y cyd. Mae gan bob un o'r sefydliadau rôl sylweddol i'w chwarae wrth fynd i’r afael â’r cynlluniau ar gyfer twf rhanbarthol, a sicrhau bod ymrwymiadau dinesig i gynwysoldeb a chynaliadwyedd wrth wraidd mentrau newydd a rhai sy'n dod i'r amlwg.
Dywedodd Wendy Larner, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd: “Rwy'n falch o groesawu'r memorandwm cyd-ddealltwriaeth hwn. Bydd yn helpu i gryfhau gwreiddiau'r ymchwil gydweithredol ac arloesol sy'n digwydd ledled ein sefydliadau."
Ers 2017 mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, sydd wedi'i lleoli yn adeilad sbarc|sbark y Brifysgol, wedi gweithio'n llwyddiannus gyda sectorau Addysg Uwch ac Addysg Bellach rhanbarthol ar brosiectau trawsnewidiol, gan ysgogi cyllid ymchwil ac arloesi sylweddol ar gyfer y rhanbarth. Mae hyn yn cynnwys bod yr unig ranbarth yn y DU i sicrhau dwy fenter Cronfa Cryfder Mewn Lleoedd cynllun Ymchwil ac Arloesi’r DU (UKRI), sef (CSConnected a Media Cymru) sydd at ei gilydd werth bron i £100 miliwn.
Bydd yr ymrwymiad pellach hwn yn sicrhau bod dyheadau rhanbarthol yn cyd-fynd, ac yn creu cyfleoedd pellach ar gyfer ymgysylltu â busnes, dysgu ar y cyd, addysgu, ac ymchwil a datblygu, gan ganiatáu i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd gasglu ynghyd yr arbenigedd y gall y sefydliadau hyn ei gyflawni gyda'i gilydd.
Dywedodd Kellie Beirne, Prif Swyddog Gweithredol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd: “Mae'r bartneriaeth hon yn dangos sefydliadau addysgol ac ymchwil a chorff cyhoeddus rhanbarthol sydd newydd ei sefydlu yn dod at ei gilydd mewn ffordd holl bwysig. Mae hyn yn ein galluogi i ymdrechu ar y cyd i hyrwyddo cenhadaeth ddinesig bob un o’n sefydliadau gyda'n gilydd. Arloesi yw sylfaen ein dyfodol, ac mae ein hymrwymiad ar y cyd i gydweithio a llunio llwybr newydd yn rhoi'r cyfle gorau o feithrin cynaliadwyedd a gwydnwch yn wyneb newid a her barhaus. Drwy greu cyd-berthynas ffurfiol, rydyn ni’n gosod y seiliau er mwyn creu effaith ranbarthol a thwf cynaliadwy yn y dyfodol, gan gydnabod y gallwn ni gyflawni mwy gyda'n gilydd."