Cynhadledd sero net yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o beirianwyr
26 Ebrill 2024
Yn ddiweddar, dysgodd myfyrwyr ar ein MSc Peirianneg Sero Net am ymchwil bwysig yn y maes mewn Cynhadledd Sero Net ar gyfer Ymchwilwyr ar Ddechrau eu Gyrfaoedd yn Birmingham.
Roedd y gynhadledd yn ymdrin ag amrywiaeth o bynciau gan gynnwys peirianneg a’r agweddau economaidd a chymdeithasol ar gyflawni sero net.
Mae ein MSc Peirianneg Sero Net yn rhaglen arloesol, sy’n addysgu’r sgiliau a’r wybodaeth seiliedig ar wyddoniaeth i fyfyrwyr er mwyn iddynt ddatrys materion datgarboneiddio yn effeithiol.
Mae ein myfyrwyr yn dysgu’n uniongyrchol gan ymarferwyr, llunwyr polisïau ac arbenigwyr yn y diwydiant am yr heriau a’r cyfleoedd sy’n deillio o’r broses pontio i sero net. Roedd y gynhadledd hon yn gyfle i’n myfyrwyr glywed gan amrywiaeth o arbenigwyr o wahanol sectorau sy’n gweithio ar sero net, a chyfnewid gwybodaeth a syniadau ag ymchwilwyr eraill ar ddechrau eu gyrfaoedd.
Cynhaliwyd y gynhadledd ar 27-28 Chwefror 2024 ac fe’i trefnwyd gan nifer o sefydliadau allweddol sy’n gweithio ym maes sero net gan gynnwys C-DICE, CO2RE, EDI+, EDRC, ERA, IDRIC, IGNITE+, HI-ACT, Supergen Bioenergy Hub, SUSTAIN, UKERC ac UK-HyRES. Mae ein staff academaidd yn yr Ysgol Peirianneg yn bartneriaid allweddol yn UKERC, EDRC, a HI-ACT.
Rhagor o wybodaeth am MSc Peirianneg Sero Net.