Astudiaeth flaenllaw newydd yn ceisio amddiffyn pobl ifanc rhag datblygu iselder
24 Ebrill 2024
Mae Canolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc wedi lansio astudiaeth ymchwil uchelgeisiol, a’i nod yw ceisio diogelu pobl ifanc rhag y risg o ddatblygu iselder.
Pwysleisiodd yr Athro Frances Rice, cyd-gyfarwyddwr Canolfan Wolfson a phrif ymchwilydd yr astudiaeth, bwysigrwydd ymyriadau cynnar er mwyn cefnogi iechyd meddwl pobl ifanc. "Gyda nifer yr achosion o iselder a heriau iechyd meddwl eraill ymysg pobl ifanc ar gynnydd, mae'n hollbwysig inni drin a thrafod dulliau arloesol o gynnig cymorth ac ymyrraeth effeithiol."
Gyda'r nod hwnnw mewn golwg, mae'r ganolfan wedi lansio'r astudiaeth Sgiliau ar gyfer Lles Pobl Ifanc (SWELL). Prif ffocws yr astudiaeth SWELL yw gwerthuso pa mor effeithiol yw’r rhaglen therapi ymddygiad gwybyddol (CBT) grŵp ar-lein i bobl ifanc wrth iddynt geisio atal datblygu iselder a gwella ansawdd eu bywydau.
Bydd y bobl ifanc sydd ynghlwm â’r astudiaeth hon yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn rhaglen CBT grŵp, lle byddan nhw’n dysgu sgiliau amhrisiadwy er mwyn rheoli straen a chryfhau eu gwytnwch meddyliol. Nid yn unig ceisio cefnogi pobl ifanc a wna’r astudiaeth hon, ond hefyd ehangu ei darpariaeth i gynnig cymorth i'w rhieni a'u gofalwyr yn yr un modd, drwy ddarparu triniaeth wedi'i hoptimeiddio ar gyfer trin iselder, os yw'n gymwys. Gwneir hyn drwy raglen 12 wythnos a deilwrir i’r unigolyn dan arweiniad meddygon arbenigol a thimau clinigol. Bydd y cam pwysig ac arloesol hwn yn helpu'r tîm ymchwil i fynd i'r afael â’r effaith y mae’r ddynameg deuluol yn ei chael ar iechyd meddwl a lles person ifanc.
Er mwyn sicrhau llwyddiant yr astudiaeth, mae'r tîm SWELL wrthi'n ceisio recriwtio rhieni i gymryd rhan. Mae’r tîm yn chwilio am rieni sydd naill ai wedi profi hwyliau isel neu sydd wedi’u diagnosio ag iselder, ac sydd hefyd â phlant rhwng 13 a 17 oed sy’n arddangos arwyddion o hwyliau isel. Drwy gynnwys rhieni a'u plant, nod yr astudiaeth hon fydd asesu’n gynhwysfawr yr effaith y mae’r ymyrraeth yn ei chael ar fywyd teuluol a lles meddyliol.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cymryd rhan yn yr astudiaeth SWELL, llenwch y ffurflen gais ar-lein. Os hoffech chi ragor o wybodaeth am yr astudiaeth, cysylltwch â’r tîm ymchwil Canolfan Wolfson yn SWELL@caerdydd.ac.uk