Academyddion yn ennill Gwobr y Papur Gorau am eu hymchwil i ysgogiadau polisi rhanbarthol a her cynhyrchiant y DU
24 Ebrill 2024

Ynghyd â’r cyd-awduron, gwnaeth Dr Helen Tilley a’i chyn-gydweithwyr Dr Andrew Connell a Dr Ananya Mukherjee o Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, sy’n rhan o Ysgol Busnes Caerdydd, ennill Gwobr y Papur Gorau 2024 adran Dadleuon Polisi’r cyfnodolyn Regional Studies.
Mae’r papur, sef A place-based system? Regional policy levers and the UK’s productivity challenge, yn trin a thrafod a oes gan ranbarthau’r DU yr ysgogiadau polisi sydd eu hangen arnynt i wella cynhyrchiant, gan edrych ar y cysylltiad rhwng datganoli a chynhyrchiant.
“Mae ysgogi twf cynhyrchiant yn gofyn am fuddsoddiad mewn sefydliadau llywodraethu rhanbarthol a lleol. Er mwyn galluogi hyn, mae ysgogiadau polisi, pwerau gwneud penderfyniadau a chyllidebau yn hollbwysig, ond yn y DU, ni lwydda’r rhain i gyrraedd y nod o ran yr hyn sydd ei angen i wneud ymyriadau polisi trawsnewidiol – newid systematig sydd ei angen. Yn ein papur, rydyn ni’n ymchwilio i’r heriau y mae rhanbarthau’n eu hwynebu ac yn cynnig awgrymiadau i lunwyr polisïau.”
Ysgrifennwyd y papur hwn ar y cyd gan Helen Tilley (Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru), Jack Newman (Prifysgol Bryste), Charlotte Hoole (Prifysgol Birmingham), Andrew Connell (Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru) ac Ananya Mukherjee (Prifysgol Caerdydd).
Gwyliwch y foment pan wnaeth Phil Tomlinson, Golygydd adran Dadleuon Polisi’r cyfnodolyn Regional Studies, gyflwyno gwobr 2024 ar gyfer y papur gorau a gyhoeddwyd yn adran Dadleuon Polisi Regional Studies:
Darllenwch y papur yn llawn: A place-based system? Regional policy levers and the UK’s productivity challenge
Darllenwch y blog diweddar hwn gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, lle mae'r awduron yn trafod y papur.
Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn rhoi tystiolaeth a chyngor annibynnol o ansawdd uchel er mwyn gwella polisi cyhoeddus a’i weithrediad yng Nghymru. Mae'r ganolfan yn rhan o Ysgol Busnes Caerdydd a Phrifysgol Caerdydd.