Astudiaeth yn amlygu’r anghydraddoldebau rhwng menywod a dynion o ran y siawns y bydd eu plant yn cael eu rhoi mewn gofal
23 Ebrill 2024
Mae astudiaeth newydd a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan ymchwilwyr yng Nghanolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol i Blant (CASCADE), yn taflu goleuni ar yr anghydraddoldebau rhwng menywod a dynion o ran y siawns y bydd eu plant yn cael eu rhoi mewn gofal.
Mae’r ymchwil yn dangos pan fo’r un ffactorau risg yn bresennol, megis camddefnyddio cyffuriau ac alcohol, mae mamau sengl yn fwy tebygol o gael eu plant wedi’u rhoi mewn gofal na thadau sengl.
Gan ddefnyddio data presennol a gasglwyd gan wasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau iechyd yng Nghymru, bu i’r ymchwil hon edrych ar yr aelwydydd yr oedd plant yn byw ynddynt cyn iddynt fynd i ofal.
Gwnaeth yr astudiaeth ddadansoddi’r problemau a wynebir gan oedolion sy'n byw mewn aelwydydd o’r fath. Cafodd camddefnyddio cyffuriau ac alcohol, anawsterau dysgu, a phroblemau iechyd meddwl oll eu crybwyll.
Meddai Dr Neil Warner, un o brif awduron yr astudiaeth:
Ychwanegodd Dr Warner, “Er bod ein hastudiaeth wedi gallu amlygu bod hyn yn digwydd, nid yw’n esbonio pam, ac mae’n bosibl y bydd llawer o esboniadau.
Er enghraifft, gallai fod yn gysylltiedig ag arfer o fewn gwasanaethau cymdeithasol a gwahanol agweddau at weithio gyda mamau a thadau, neu gall fod yn gysylltiedig â faint mae gwasanaethau cymdeithasol yn debygol o fod yn ymwybodol o wahanol faterion sy’n perthyn i famau a thadau.
“Gall hefyd fod yn gysylltiedig â phethau sy'n digwydd yn ehangach mewn cymdeithas, ac agweddau gwahanol ar gyfer mamau a thadau sengl a allai effeithio ar bwy sy'n cael eu cyfeirio at y gwasanaethau cymdeithasol. Felly mae’n bwysig iawn ein bod yn ceisio gwybod rhagor am y rhesymau pam mae hyn yn digwydd.”
Gwnaeth yr Athro Jonathan Scourfield, athro gwaith cymdeithasol o Brifysgol Caerdydd, a oedd hefyd yn rhan o’r astudiaeth, dynnu sylw at sut y gallai’r canfyddiadau adlewyrchu canfyddiadau astudiaethau blaenorol am agweddau at famau a thadau. Dyma a ddywedodd:
I gloi, meddai Dr Neil Warner, “Rydym yn gwybod bod gweithwyr cymdeithasol dan bwysau gwirioneddol oherwydd llwyth achosion uchel a chyllidebau awdurdodau lleol yn cael eu gwasgu, ond yn fy mhrofiad i maent yn awyddus iawn i fynd i’r afael â’r anghydraddoldebau y mae’r bobl y maent yn gweithio gyda nhw yn eu hwynebu, a dylai’r canfyddiadau hyn helpu i nodi meysydd ar gyfer newid.”
Rhagor o wybodaeth am CASCADE a’r ymchwil a wneir yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd.