Gwobrau lleoliad yn anrhydeddu rhagoriaeth myfyrwyr
25 Ebrill 2024
Yn ddiweddar, cynhaliodd Ysgol Busnes Caerdydd y Gwobrau Lleoliadau Israddedig, gan dynnu sylw at gyflawniadau rhyfeddol ein myfyrwyr yn ystod eu lleoliadau.
Wedi'u cynnal ar 21 Mawrth 2024, roedd y gwobrau'n cydnabod cyfraniadau myfyrwyr lleoliad rhagorol i fusnesau yn lleol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang.
Opsiwn poblogaidd i nifer o’n myfyrwyr yn Ysgol Busnes Caerdydd yw lleoliadau gwaith, ac mae profiadau o’r fath yn helpu myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau proffesiynol, gan eu galluogi i ragori ar y rhelyw mewn marchnad swyddi gystadleuol ar ôl graddio.
Mae Ardal Cyfleoedd Ysgol Busnes Caerdydd yn cefnogi myfyrwyr i ddod o hyd i leoliadau a gwneud cais iddynt, yn ogystal â'u helpu drwy gydol eu taith leoliadau.
Roedd 20 o fyfyrwyr a oedd ar leoliad y llynedd (2022/23), ar y rhestr fer ar gyfer gwobrau.
... "Ffordd wych o ddathlu’r llwyddiannau hyn yw digwyddiad blynyddol y Gwobrau Lleoliadau, a hynny yng nghwmni cyd-weithwyr academaidd, partneriaid strategol, a myfyrwyr ar leoliad sydd wedi cyrraedd y rhestr fer am wobr. Dyma estyn diolch arbennig i noddwyr hael y gwobrau; heb eu cefnogaeth, ni fyddai trefnu’r digwyddiad godidog hwn yn bosibl."
Llongyfarchiadau i'n henillwyr a'n myfyrwyr a gafodd eu cymeradwyo’n fawr:
Myfyriwr Lleoliad y Flwyddyn, a noddir gan Novus
- Enillydd y wobr – Lewis Gibbins (Aldi)
- Canmoliaeth uchel – Ollie Davies (Wincanton)
Intern y Flwyddyn, a noddir gan Celsa UK
- Enillydd Gwobr – Will Beaney (Sparta Capital Management)
- Canmoliaeth uchel - Gracie Holliday (Rocialle Healthcare)
Cyfraniad Myfyrwyr i BBaCh, a noddir gan ICAEW
- Enillydd Gwobr – Gemma Green (Darwin Gray)
- Canmoliaeth uchel – Amber Dale (Ultra X)
Cwrdd ag enillwyr ein myfyrwyr
Dywedodd Lewis Gibbins, a enillodd wobr Myfyriwr Lleoliad y Flwyddyn:
"Roedd cael fy enwi'n Fyfyriwr Lleoliad y Flwyddyn yn wirioneddol werth chweil ac yn dyst i'm hamser gwych yn Aldi. Cefais y cyfle i gael effaith wirioneddol ar y busnes trwy amrywiol rolau mewn gweithrediadau yn y siop. Rôl amlwg i mi oedd cael y cyfrifoldeb i ddosbarthu stoc Nadolig i dros 80 o siopau yn rhanbarth Caerdydd.
Mae fy sgiliau rheoli amser, gwybodaeth am y diwydiant ac arweinyddiaeth i gyd wedi cael datblygiad sylweddol diolch i'm lleoliad, ac ni allwn ei argymell ddigon! Mae lleoliad nid yn unig yn gyfle i gymhwyso'ch gwybodaeth ond hefyd i dyfu, fel gweithiwr proffesiynol ac fel person."
Dywedodd Will Beaney, enillydd Intern y Flwyddyn:
"Mae'n anrhydedd anhygoel cael cydnabyddiaeth gan Brifysgol Caerdydd fel Myfyriwr Intern y Flwyddyn. Rwy'n gwybod pa mor llwyddiannus oedd yr enwebeion eraill yn eu lleoliadau; mae ennill y wobr hon yn dod â balchder mawr i Sparta ac i minnau. Ar fy lleoliad, yr wyf yn gyfrifol am gysoni masnach Sparta, swyddi, arian parod, P & L, a mwy na 50 o gyfrifon arian cyfred ar draws 5 ceidwaid.
Ni allwn fod wedi dirnad cyn dechrau ar fy lleoliad faint o ddysgu oedd gen i o'm blaen. Mae cwblhau fy lleoliad yn Llundain wedi bod yn brofiad datblygiad personol aruthrol. Rwyf wedi cael fy herio'n barhaus, wedi gwneud ffrindiau gydol oes, ac wedi creu rhai o fy hoff atgofion. Rwyf wedi dysgu cymaint amdanaf fy hun ag a wnes am fy niwydiant; byddaf yn dychwelyd i Gaerdydd yn berson gwahanol iawn i'r un a adawodd ar gyfer lleoliad ar ddiwedd 2022."
Dywedodd Gemma Green, enillydd Y Cyfraniad Gorau gan Fyfyriwr i Gyflogwyr Bach a Chanolig (BBaChau):
"Mae'n deimlad anhygoel cael fy nghydnabod am fy llwyddiannau a pha mor bell rydw i wedi dod ar fy nhaith ar leoliad. Mae'n deimlad gwych gwybod bod y gwaith a wnes i yn ystyrlon ac wedi cael effaith ar y cwmni.
Rwyf wedi dysgu cymaint ar leoliad, gan gynnwys sgiliau proffesiynol a sgiliau personol. Mae fy hyder wedi cynyddu yn ogystal â'm proffesiynoldeb. Byddwn bob amser yn argymell lleoliad i eraill, gan ei fod wedi fy ngalluogi i wella llawer o sgiliau sy'n berthnasol i brifysgolion, gwaith a bywyd bob dydd. Mae wedi fy ngalluogi i dyfu fel unigolyn ac wedi rhoi profiad amhrisiadwy i mi a fydd yn fy helpu i sicrhau swydd ar ôl i mi raddio."
Mae’r opsiwn ar gael i israddedigion Ysgol Busnes Caerdydd dreulio blwyddyn ar leoliad proffesiynol wrth astudio ar gyfer eu gradd. Mae Rheolaeth Busnes (BSc) hefyd yn cynnig y cyfle i fyfyrwyr gwblhau lleoliad integredig yn semester gwanwyn eu hail flwyddyn.
Cysylltwch â'r Tîm Lleoliadau yn Ysgol Busnes Caerdydd i gael rhagor o wybodaeth am y cyfleoedd rydyn ni'n eu cynnig.