Dod o hyd i fannau clwydo ystlumod bellach ddim fel chwilio am “nodwydd mewn tas wair”
24 Ebrill 2024
Mae algorithm newydd ar ffurf ap yn ei gwneud hi’n haws i ecolegwyr a chadwraethwyr ddod o hyd i leoliadau clwydo ystlumod – gan leihau ardaloedd chwilio bron i 375 gwaith eu maint blaenorol.
Mae'r dechnoleg yn cyfuno data o synhwyrydd mewn meicroffon gyda model symudedd ystlumod er mwyn nodi'r rhanbarthau gorau posibl i’w chwilio, yn ogystal â rhagweld lleoliadau clwydo.
Mae’r tîm, o Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Sussex, yn dweud y bydd eu dull yn lleihau ardaloedd chwilio enfawr o dros 3 cilomedr x 3 cilomedr. Yn lle hyn, bydd yn nodi lleoliadau clwydo posibl o fewn tirweddau llawer llai o 250 metr x 250 metr, sef tua maint wyth cae pêl-droed.
Gallai eu canfyddiadau, sydd wedi’u cyhoeddi yn Royal Society Open Science, arwain at arbedion o dros 90% o safbwynt llafur, gan ryddhau amser i ecolegwyr a chadwraethwyr gefnogi poblogaethau ystlumod a’u cynefinoedd, sydd wedi’u diogelu o dan gyfraith y DU.
Dyma a ddywedodd prif awdur yr astudiaeth, Dr Thomas E. Woolley, Uwch-ddarlithydd yn Ysgol Mathemateg Prifysgol Caerdydd: “Yn ogystal â bod yn rhywogaeth warchodedig, mae ystlumod yn bwysig i’n hamgylchedd – maen nhw’n rheoli plâu, peillio blodau a choed, ac yn gwasgaru eu hadau.
Mae'r gwaith yn tynnu ar ymchwil blaenorol y tîm, a ddatblygodd fodel gan ddefnyddio data ar daflwybrau ar ystlumod pedol mwyaf i ddeall yn well sut maen nhw’n symud ac yn ymgysylltu â'u hamgylchedd.
Mae'r algorithm sy’n deillio o hyn yn defnyddio data synhwyrydd mewn meicroffon ar ble mae'r ystlumod pedol mwyaf, a'r model symudedd, i ragfynegi o ble y maen nhw wedi dod.
Profodd y tîm yr algorithm yn erbyn lleoliadau clwydo hysbys i fesur ei gywirdeb. Daeth y data o chwe arolwg acwstig a gafodd eu cynnal gyda dyfeisiau recordio a oedd wedi’u graddnodi’n arbennig i gofnodi galwadau amledd uchel ystlumod mewn pedwar man clwydo gwahanol yn y DU ledled Dyfnaint lle mae ystlumod benywaidd sy’n feichiog yn ymgasglu i gael eu hystlumod bach.
Ychwanegodd Dr Woolley: “Hyd yn oed pan dydyn ni ddim yn rhagfynegi lleoliad man clwydo hysbys yn gywir, nododd ein halgorithm ardaloedd yn agos at fannau clwydo y daethpwyd o hyd iddyn nhw yn ddiweddarach, gan bwysleisio pa mor ddibynadwy yw ein model.”
Mae'r tîm yn bwriadu datblygu'r ap ymhellach i gynnwys data ar dirwedd a thywydd er mwyn rhagfynegi hyd yn oed yn fwy manwl gywir.
Dywedodd yr Athro Fiona Mathews o Brifysgol Sussex, un arall o awduron y papur: “Mae cynllunio’n strategol i warchod y rhwydwaith o glwydau sydd eu hangen ar ystlumod mewn tirwedd yn amhosibl, bron iawn.
“Mae dulliau ymchwil blaenorol wedi bod yn hynod o lafurddwys wrth i bobl roi gwybod pryd maen nhw’n clywed ystlumod rhywogaeth benodol am y tro cyntaf ar ôl y machlud.
“Yna, defnyddir yr amseriadau hyn i olrhain yn ôl i'r clwydau. Mae ein dull newydd yn manteisio ar y ffaith bod synwyryddion ystlumod awtomataidd bellach ar gael yn eang. Rydyn ni’n edrych ymlaen at brofi’r fethodoleg ar rywogaethau eraill yr haf hwn.”
Yn ogystal â symleiddio llwythi gwaith cadwraethwyr ac ecolegwyr, mae'r tîm yn dweud y gallai'r ymchwil hefyd annog cwmnïau adeiladu i ddefnyddio arferion adeiladu cynaliadwy, a thrwy hynny leihau effaith amgylcheddol adeiladu safleoedd ar gynefinoedd cyfagos.
Ychwanegodd Dr Woolley: “Bydd gwybod ble mae mannau clwydo ystlumod yn helpu cwmnïau i osgoi adeiladu yn yr ardaloedd hyn. Bydd hyn yn cefnogi eu ceisiadau adeiladu i awdurdodau lleol, sydd â dyletswydd i gynnal a meithrin yr amgylchedd.”
Mae eu papur, 'A simple and fast method for estimating bat roost locations’, wedi’i gyhoeddi yn Royal Society Open Science.