Digwyddiad Dydd Gŵyl Dewi’n amlygu arwyddocâd Cymru
2 Mawrth 2024
Mae’r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio wedi cynnal digwyddiad i nodi pwysigrwydd Dydd Gŵyl Dewi.
Cynhaliwyd y digwyddiad er mwyn pwysleisio sut y gall edrych ar Gymru ein helpu i ddeall materion llawer mwy ar raddfa fyd-eang ac er mwyn herio unrhyw gamddealltwriaeth bod Cymru’n daleithiol ac yn ddibwys.
Cynhaliwyd y digwyddiad i nodi Dydd Gŵyl Dewi – nawddsant Cymru – gan ei fod o arwyddocâd symbolaidd yng Nghymru a thu hwnt.
Cymerodd y pump ar y panel (Dr Francesca Sartorio, Nia Rees, yr Athro Kevin Morgan, Dr Huw Williams a’r Athro Wendy Larner) ran yn y digwyddiad, a chafwyd cyflwyniadau byr ganddynt ar amrywiaeth o bynciau.
Roedd cyflwyniad Nia (yn Gymraeg ac yn Saesneg) yn canolbwyntio ar sut oedd Cymru ar y blaen o ran atal digartrefedd, gan gynghori gwledydd eraill ar sut i ddilyn esiampl Cymru.
Trafododd Kevin arwyddocâd y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a’r camau pwysig ymlaen o ran cynnig prydau ysgol iach a chynaliadwy.
Roedd cyflwyniad Francesca yn ymwneud â chynllunio wedi’i arwain gan y gymuned a hanes hir y cryfder a’r penderfyniad ymhlith cymunedau Cymru, y gallai lleoedd eraill ddysgu ohono.
Yn gysylltiedig â hyn, bu Huw Williams hefyd yn trafod (yn Gymraeg) sut mae hanes hir brwydrau gwleidyddol yng Nghymru’n dangos bod angen i genhedloedd bach fod yn hunanddibynnol a chefnogi annibyniaeth eu pobl.
Roedd cyflwyniad Wendy Larner yn canolbwyntio ar sut mae’r cyd-destun Cymreig yn cyfateb i air Maori – Kaitiakitanga, sef y cyfrifoldeb am warchod nid yn unig genedlaethau’r dyfodol ond hefyd gysylltiadau allanol mewn mannau eraill.
Yn dilyn y cyflwyniadau, cafodd y gynulleidfa gyfle i ofyn cwestiynau. Roeddent yn canolbwyntio ar bŵer amlieithrwydd i ddeall byd y mae llawer o fydoedd yn cydfodoli ynddo.
Dyma hefyd oedd y digwyddiad cyntaf i’r Ysgol ei gynnal a oedd yn cynnig gwasanaeth cyfieithu ar y pryd. Felly, roedd yn gwbl ddwyieithog. Mae’r Ysgol hefyd yn atgyfnerthu ei hymrwymiad i wella cyfleoedd i ddysgu a siarad Cymraeg, yn ogystal ag ystyried sut i ddatblygu rhagor o weithgareddau a theithiau maes sy’n canolbwyntio ar Gymru, yn rhan o’r addysgu.