Pam na ddylai The Body Shop wedi methu mewn oes lle mae cwsmeriaid eisiau gweld brandiau’n ymgyrchu
11 Ebrill 2024
![](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0006/2806989/The-Body-Shop-rs.png?w=570&h=321&fit=crop&q=60&auto=format)
Mae Dr Zoe Lee, Darllenydd (Athro Cyswllt) mewn Marchnata yn Ysgol Busnes Caerdydd, wedi cyd-ysgrifennu erthygl yn The Conversation sy'n dadlau na ddylai The Body Shop, sy’n enghraifft fyd-eang o fanwerthu moesegol, fod wedi methu mewn oes lle mae ymgyrchu’n cael y fath sylw.
Yn yr erthygl, mae academyddion yn trin a thrafod methiant The Body Shop, gan nodi problemau fel pobl yn blino ar ymgyrchoedd, dirywiad yn newrder y brand, a methiant i drawsnewid go iawn. Tynnir sylw hefyd at y modd y gallai The Body Shop adennill synnwyr o dreftadaeth y brand fel un sy’n ymgyrchu.
Darllenwch yr erthygl lawn yn The Conversation: The Body Shop shouldn’t have failed in an age when consumers want activism from their brands. Beth ddigwyddodd?
Mae'r erthygl yn defnyddio ymchwil o bapur gan Dr Zoe Lee ac academyddion o Brifysgol RMIT, Prifysgol Technoleg Auckland, a Phrifysgol Portsmouth. Darllenwch y papur llawn: From warmth to warrior: impacts of non-profit brand activism on brand bravery, brand hypocrisy and brand equity, a gyhoeddir yn y Journal of Brand Management.