Ymchwil sy’n torri tir newydd yn gosod trap i ddal pryfed tywod a allai fod yn farwol
11 Ebrill 2024
Darganfu gwyddonwyr yr ensym penodol y mae pryfed tywodyn ei ddefnyddio er mwyn creu fferomon(au) i ddenu partneriaid. Gall darganfyddiad o’r fath arwain at ddatblygu trapiau a dargedir er mwyn ceisio lleihau ymlediad clefydau sy’n gallu bod yn angheuol.
Mae tîm o ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd a Phrifysgol Nottingham wedi nodi'r ensym y mae’r rhywogaeth o bryfed tywod Lutzomyia longipalpis yn ei ddefnyddio i ddenu partneriaid — dyma ddarganfyddiad o bwys a allai arwain at ddatblygu systemau trapio masnachol er mwyn ceisio targedu a rheoli hyn.
Drwy wneud ddadansoddiad genom ar Lutzomyia longipalpis, darganfu’r tîm mai’r ensym terpene synthase sy’n gyfrifol am greu terpene pheromone sobralene, yr hyn y mae pryfed tywod gwrywaidd yn ei ddefnyddio i ddenu partneriaid benywaidd a gwrywod eraill sy’n ceisio cyplu.
Dan arweiniad Yr Athro John Pickett FRS, Pennaeth yr Ysgol Cemeg ym Mhrifysgol Caerdydd, diben y gwaith hwn yn wreiddiol oedd nodweddu'n gemegol fferomonau Lutzomyia longipalpis am y tro cyntaf. Gwnaeth hyn arwain, o ganlyniad, at wneud y cysylltiad hwn â’r ensym yn bosibl.
Dyma ddywedodd yr Athro Pickett: “Ar y cyd â’r Ysgol Gemeg ym Mhrifysgol Nottingham a chydweithwyr o Frasil, rydyn ni’n gonsortiwm grymus, wrth inni nodi a manteisio ar y llwybrau cemo-ensymatig i greu’r broses fasnachol o gynhyrchu fferomonau fectorau pryfed pathogenau dynol. Yn yr enghraifft dan sylw, ffocws y gwaith oedd y fectorau pryfed tywod yn y byd newydd sy’n achosi ffurfiau gwanychol o leishmaniasis”.
Dyma’r hyn a ddywedodd yr Athro Neil Oldham, Ysgol Cemeg Nottingham: “Roedd ceisio cael hyd i'r ensym hwn yn dasg a hanner. Rydyn ni wedi bod yn chwilio am yr ensym ers dros ddwy flynedd. Mae’r genom Lutzomyia yn cynnwys nifer anarferol o uchel o enynnau terpene synthase posibl, ond diolch i ddygnwch Dr Charlie Ducker, ymchwilydd dawnus yn y tîm, roedden ni’n gallu dod o hyd i'r genyn penodol hwnnw sy'n creu’r fferomon”.
Mae Lutzomyia longipalpis yn frodorol i Frasil a De America, ac mae yntau’n brif gludwr y clefyd Leishmaniasis, sy'n achosi briwiau ar y croen a difrodau yn eu ffurf leiaf difrifol, ond sydd bron â bod bob amser yn angheuol yn ei ffurf fwyaf difrifol. Yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd, effeithia Leishmaniasis ar rai o’r bobl dlotaf yn y byd.
Ym myd natur, caiff terpenau eu defnyddio’n helaeth er mwyn cyfathrebu’n gemegol, ond dim ond nawr y daw goleuni ar ein dealltwriaeth o’r ffyrdd y caiff cynhyrchion naturiol (sy’n strwythurol-amrywiol) eu creu gan bryfed.
Un fantais fawr o ddefnyddio fferomonau at ddibenion rheoli poblogaeth pryfed yw eu bod yn benodol iawn i rywogaethau penodol, ac yn yr achos hwn, yn benodol hyd yn oed i'r pla hynny sy’n byw yn y rhanbarth hwnnw o Frasil.
Bellach mae gan y tîm yng Nghaerdydd y cyfle i gynhyrchu a graddio'r rhagsylweddyn i'r fferomon sobralene (geranylgeranyl pyroffosffad (deuoffosffad)) at ddiben creu dull fforddiadwy o “ddenu a lladd” y fectorau hynny sy’n achosi’r pathogen dynol gwanychol difrifol.
Mae’r astudiaeth “A diterpene synthase from the sandfly Lutzomyia longipalpis produces the pheromone sobralene” wedi’i chyhoeddi yng nghyfnodolyn blaenllaw, sef Proceedings of the National Academy of Sciences (PNAS).