Gwobr Arian Athena Swan yn Fuddugoliaeth i’n Hysgol
11 Ebrill 2024
Mae ein hysgol yn llawn balchder ar ôl ennill Gwobr Arian Athena Swan, sy’n garreg filltir arwyddocaol ac yn dyst i’n hymdrech barhaus i hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant (EDI) ym maes mathemateg.
Mae’r cyflawniad hwn yn tanlinellu’n glir ein hymrwymiad i feithrin amgylchedd cynhwysol, wrth inni ragori ar y rhelyw fel yr unig ysgol fathemateg yng Nghymru i dderbyn y wobr glodfawr hon.
Daeth academyddion, staff a myfyrwyr PhD ynghyd i ddathlu’r wobr ddydd Llun 8 Mawrth, ac mae pob un ohonynt wedi chwarae rhan hanfodol wrth wreiddio egwyddorion EDI yn ein hysgol drwyddi draw.
Dyma ambell rai o’r egwyddorion EDI hyn:
- Mae’r cyfleusterau a’r gwasanaethau wedi'u gwella er mwyn addasu i ofynion unigolion sydd ag anableddau a hunaniaethau amrywiol o ran rhywedd. Drwy asesiadau cynhwysfawr o effaith ar gydraddoldeb, rhoddwyd gwelliannau megis gosod padiau’n isel ar y drysau at ddibenion hygyrchedd, ystafelloedd ymolchi sy’n gynhwysol o ran rhywedd, ac amwynderau sy’n ystyriol o bobl anabl, a hyn oll er mwyn sicrhau amgylchedd croesawgar i bawb.
- Bu lansio’r gyfres Golocwiwm arbennig ar EDI ym mis Mai 2021 gynnig llwyfan i’r cynadleddwyr drafod materion cysylltiedig ag EDI yn y gymuned fathemateg, gan feithrin deialog a chodi ymwybyddiaeth ymhlith myfyrwyr a staff. Bu i’r pynciau amrywio o bwysigrwydd modelau rôl i gynhwysiant LHDTC+, ac a wnaeth ysgogi trafodaethau ystyrlon, a pharatoi’r ffordd ar gyfer amgylchedd mwy cynhwysol.
- Gwnaeth cyflwyno’r fforwm ‘Rhagflas’ (Teaser) ym mis Mawrth 2022 helpu ymhellach i hwyluso cyfnewidiadau agored ar arferion addysgu a goruchwylio, gyda ffocws ar gynwysoldeb a thegwch.
- Gan gydnabod y rôl ganolog y mae addysg yn ei chwarae wrth hyrwyddo gwerthoedd EDI, gofynnir hefyd i bob myfyriwr yn ei flwyddyn gyntaf gwblhau modiwl ar-lein ar EDI, gyda sesiynau briffio pellach yn cael eu cynnal gan y Cyfarwyddwr EDI i bob myfyriwr israddedig ac ôl-raddedig.