Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn mynd i ddigwyddiad llenyddol
8 Ebrill 2024
Fe aeth myfyrwyr o Brifysgol Caerdydd i ddigwyddiad llenyddol unwaith eto, gan chwarae rhan mewn dyfarnu gwobr lenyddol fawreddog yn Ffrainc.
Aeth Maria Armstrong, sy’n astudio gradd israddedig mewn Ffrangeg ac Almaeneg, a Tracey Owusu Frimpong, sy’n mynychu dosbarthiadau Ieithoedd i Bawb, i drafodaethau a seremoni wobrwyo’r Choix Goncourt UK 2024 a gafodd eu cynnal yn yr Institut Français yn Llundain, a Llysgenhadaeth Ffrainc ar 22 Mawrth.
Mae'r Choix Goncourt yn deillio o'r Prix Goncourt, sef Seremoni Lenyddol o fri a gafodd ei sefydlu ym 1903 gan y brodyr Goncourt. Mae’r Choix Goncourt yn bodoli mewn 40 o wledydd ledled y byd, a dyma’r pumed tro i’r Choix Goncourt UK gael ei gynnal, ers iddo gael ei sefydlu yn 2019.
I gyd, fe gymerodd 15 tîm myfyrwyr o brifysgolion y DU ran yn y Choix Goncourt UK eleni, lle rhwng Tachwedd 2023 a Mawrth 2024, bu i fyfyrwyr Ffrangeg ddarllen a thrafod 4 nofel oedd ar restr fer y Prix Goncourt o fri. Yn ystod y cyfnod hwn, gwnaeth y timau hefyd gydweithio â thimau o brifysgolion eraill yn y DU a myfyrwyr o’r Choix Goncourt Ireland. Ar ôl iddyn nhw gyfarfod yn rheolaidd drwy gydol y flwyddyn, aeth 2 gynrychiolydd o bob prifysgol i’r seremoni, lle buon nhw’n trafod y nofelau gyda’i gilydd cyn penderfynu ar y prif enillydd.
Cafodd y nofelau hyn hefyd eu cyflwyno gan fyfyrwyr o flaen cynulleidfa nodedig yn Llysgenhadaeth Ffrainc, ac yn eu plith oedd Ei Hardderchogrwydd Llysgennad Ffrainc, Hélène Duchêne, aelod o’r Académie Goncourt, Camille Laurens, a’r nofelydd, Brigitte Giraud, enillydd swyddogol y Prix Goncourt yn 2022 a Choix Goncourt y myfyrwyr yn 2023. Yn y seremoni, cyflwynodd Tracey Owusu Frimpong, myfyriwr o Brifysgol Caerdydd, y nofel Triste Tigre gan Neige Sinno.
Dyma’r 4 nofel a gyrhaeddodd y rhestr fer eleni: Humus gan Gaspard Koenig, Veiller sur Elle gan Jean-Baptiste Andrea, Triste Tigre gan Neige Sinno, a Sarah, Susanne et l'écrivain gan Eric Reinhardt - ond daeth Triste Tigre gan Neige Sinno i’r brig i gipio’r wobr.
Fe ymunodd Marie Gastinel-Jones, Darllenydd mewn Ffrangeg ac arweinydd y fenter yn yr Ysgol Ieithoedd Modern, â’r myfyrwyr i’r seremoni. Dyma a ddywedodd hi: “Mae’r Choix Goncourt UK wedi bod yn mynd o nerth i nerth. Mae'n rhoi cyfle unigryw i fyfyrwyr dreiddio’n dwfn i lenyddiaeth Ffrainc a Ffrangeg y tu allan i gyd-destun yr ystafell ddosbarth, gan roi rhyddid llawn iddyn nhw fynegi eu gwerthfawrogiad o lenyddiaeth.
“Gwnaeth Maria a Tracey gynrychioli eu cyfoedion o Lwybrau Ffrangeg arbenigol ac Ieithoedd i Bawb yr Ysgol Ieithoedd Modern, yn y drefn honno. Roedd ill dwy yn llysgenhadon gwych i gynrychioli’r Ysgol ac rydyn ni’n hynod falch ohonyn nhw.”