Tîm o Brifysgol Caerdydd ar ben y rhestr yng Nghymru mewn her negodi flynyddol
3 Ebrill 2024
Yn ddiweddar, daeth dau fyfyriwr o Brifysgol Caerdydd yn ail mewn cystadleuaeth flynyddol pan fydd ymgeiswyr o bob rhan o'r DU yn negodi eu ffordd i’r brig!
Curodd Hannah Williams a Cliona Tanner-Smith, sy'n astudio Diploma Graddedig yn y Gyfraith, 47 o dimau i ddod yn ail yn rownd derfynol y Gystadleuaeth Negodi Genedlaethol eleni a noddir gan y Centre for Effective Dispute Resolution (CEDR). Cynhaliwyd y gystadleuaeth ar 23 Mawrth ym Mhrifysgol y Gyfraith, Moorgate, Llundain. Er na enillon nhw'r brif wobr i Gymru a Lloegr, Hannah a Cliona oedd y tîm mwyaf llwyddiannus i gystadlu o brifysgol yng Nghymru sy'n golygu y byddan nhw bellach yn cynrychioli'r Ysgol unwaith eto ond y tro hwn yn y Rownd Derfynol Ryngwladol a gynhelir ym Mrasil ym mis Gorffennaf 2024.
Yn y gystadleuaeth flynyddol, bydd myfyrwyr yn cystadlu mewn rowndiau i brofi eu sgiliau negodi. Mae'r gystadleuaeth yn rhoi’r cyfle i’r rheini sy’n cymryd rhan drafod sefyllfaoedd yn y byd go iawn. Yn y rhain bydd trafodaethau ar y cyd yn ogystal â’r angen i fod yn hyderus ac yn ymwybodol o ddiddordebau ehangach, opsiynau creadigol a thechnegau perswadio.
Roedd pob un o'r timau a gymerodd ran yng nghystadleuaeth 2024 wedi gwella eu hymwybyddiaeth fasnachol, ac roedd hanner yn cynrychioli'r canlynol mewn nifer o senarios damcaniaethol:
- cwmni adeiladu sy'n ymwneud â maes awyr newydd yn Gozo (Malta)
- dylanwadwr y cyfryngau cymdeithasol mewn contract nawdd
- undeb llafur yn trafod cytundeb cyflog gyda chwmni rheilffyrdd
Nid Hannah a Cliona oedd yr unig fyfyrwyr o Brifysgol Caerdydd i gystadlu yn y rownd derfynol. Roedd Oliver Cadin, myfyriwr LLB a Michelle-Angela Abayomi-Delavina, myfyrwraig LLM, hefyd yn cystadlu ac fe wnaethon nhwthau’n arbennig o dda.
Dyma a ddywedodd Hannah Williams, “Dyna oedd profiad gwych, sef mynd i'r afael â senarios negodi yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth a chyrraedd rowndiau terfynol y Gystadleuaeth Genedlaethol. Ymhlith fy uchafbwyntiau mae cymryd rhan mewn diwrnod hyfforddi negodi uwch a gynhaliwyd ym Mhencadlys CEDR, derbyn adborth gan y beirniaid o nifer o ddiwydiannau a chwrdd â chyd-fyfyrwyr y gyfraith o bob rhan o'r DU. Ein mentor Julie Price a'i harweiniad amhrisiadwy yw'r rheswm dros ein llwyddiant. Brasil, dyma ni’n dod!”
Ychwanegodd Cliona: "Mae cymryd rhan yn y Gystadleuaeth Negodi wedi bod yn brofiad gwych yn ystod fy amser yma yn y Brifysgol. Mae wedi bod yn gyfle gwych i gael rhwydweithio gyda darpar gyfreithwyr o bob cwr o'r DU a chael profiad cyfreithiol y tu allan i'r Diploma. Mae’r broses o negodi’n ddifyr iawn ac rwy’n edrych ymlaen at gynrychioli Cymru ar y llwyfan rhyngwladol. Diolch yn fawr iawn i'n hyfforddwr, Julie Price, a phawb sydd wedi ein cefnogi ar hyd y daith. “
Gall myfyrwyr y gyfraith yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth ddatblygu ystod o sgiliau drwy weithgareddau allgyrsiol sy'n canolbwyntio ar ddatblygu cymwyseddau ymarferol gan gynnwys negodi a chyfweld â chleientiaid.
Ceir rhagor o wybodaeth am y Gystadleuaeth Negodi Genedlaethol ar wefan y CEDR.