Cyfarwyddwr Ymchwil yn cyd-arwain yr ail encil i fenywod mewn mathemateg gymhwysol
4 Ebrill 2024
Cafodd Encil i Fenywod mewn Mathemateg Gymhwysol (RWAM) 2024, a gynhaliwyd yn y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Gwyddorau Mathemategol yng Nghaeredin, ei drefnu gan ein Cyfarwyddwr Ymchwilydd, yr Athro Angela Mihai, mewn cydweithrediad â’r Athro Apala Majumdar o Brifysgol Strathclyde.
Prif nod y digwyddiad hwn oedd hwyluso a rhoi llwyfan cefnogol i fathemategwyr benywaidd rannu eu cipolygon ar agweddau proffesiynol ar bynciau helaeth, gan gynnwys cyfleoedd ariannu, datblygu gyrfa ac arferion addysgu.
Un o uchafbwyntiau’r encil oedd gweld yr ystod amrywiol o unigolion a gymerodd rhan ynddo, gan gynnwys unigolion ar wahanol gamau yn eu gyrfa, boed ymgeiswyr PhD neu athrawon wedi’u hen sefydlu. Gwnaeth yr amrywiaeth hon ychwanegu at y trafodaethau cyfoethog a gafwyd yn ystod y rhaglen, yn ogystal ag ennyn creadigrwydd y rheiny oedd ynghlwm â hi.
Ymhlith yr unigolion a fu’n bresennol oedd y darlithydd Nneka Umeorah, o’n hysgol ni, ac a wnaeth gyflwyno ei hymchwil ar y pwnc: Rhwystrau o ran Opsiynau a’r Groegiaid: modelu â Rhwydweithiau Nerfol.
Gan fynd i'r afael â’r diffyg cynrychiolaeth menywod ym maes mathemateg, gwnaeth yr encil hwn sefydlu a rhoi cynllun mentoriaid-mentoreion ar waith i gysylltu darpar fathemategwyr â mentoriaid profiadol. Mae mentrau o'r fath yn hollbwysig er mwyn cynnig arweiniad, anogaeth a chyngor gyrfaol i’r menywod hynny sydd wrthi’n llywio eu llwybrau academaidd a phroffesiynol.