Datgelu’r Aifft
2 Ebrill 2024
Cipolwg y tu ôl i'r llenni ar archaeoleg a chadwraeth ar gyfer cymdeithas y DU
Cafodd aelodau o Gymdeithas yr Hen Aifft a'r Dwyrain Canol (AEMES) blas ar waith Archaeoleg a Chadwraeth yn y Brifysgol y gwanwyn hwn.
Yn ystod yr ymweliad, cafodd aelodau'r gymdeithas gyflwyniadau i'r maes cadwraeth ac addysgu darlunio archaeolegol yn yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd.
Cyflwynodd y Darllenydd mewn Cadwraeth Phil Parkes waith sylweddol y Brifysgol ym maes cadwraeth, gan ganolbwyntio'n arbennig ar wrthrychau'r Aifft sy'n cael eu trin ar hyn o bryd, gan gynnwys arch o 26ain Brenhinlin yr Aifft (wedi ei ddyddio tua 664-525 CC).
Mae’r arch i’w gweld yn y Ganolfan Eifftaidd yn Abertawe bellach. Bu’r arch hynafol yn fan gorffwys derfynol i o leiaf 3 deiliad dros ei oes – yn wryw ac yn fenyw.
Dangoswyd eitemau eraill o'r Aifft i’r ymwelwyr gan gynnwys carreg stele a ffigwr aloi copor o Isis yn nyrsio'r baban Horus. Mae ffigurau o'r fath yn adnabyddus o'r Cyfnod Hwyr (747-332 CC) a'r cyfnod Ptolemaig, a ddarganfuwyd mewn safleoedd fel y Necropolis Anifeiliaid Cysegredig yn Saqqara.
Rhoddodd y Dylunydd Graffeg a'r Darlunydd Archaeolegol Digidol Kirsty Harding gyflwyniad i'r grŵp ar addysgu darlunio archaeolegol, un o sawl sgiliau archaeoleg mae nifer o fyfyrwyr yn cael eu haddysgu yn y Brifysgol.
Fel rhan o'r ymweliad, cafodd y grŵp daith o amgylch ystafelloedd cadwraeth ac archaeoleg arbenigol, labordai ac offer y Brifysgol gan gynnwys ei microsgop electron sganio. Mae’r cyfleusterau Archaeoleg a Chadwraeth arbenigol wedi elwa o gyllid cydweithredu gwerth £3 miliwn yn ddiweddar sy’n cefnogi ymchwil, addysgu a gwaith ymgysylltu o’r radd flaenaf yn yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd.
Yr Athro Paul Nicholson, llywydd presennol AEMES, oedd yn hwyluso’r ymweliad ar 22 Mawrth.
Dywedodd: "Mae bob amser yn bleser dangos i ymwelwyr yr ystod eang o gyfleusterau a staff arbenigol sydd gennym yma ym Mhrifysgol Caerdydd."
Sefydlwyd Cymdeithas yr Hen Aifft a'r Dwyrain Canol ym 1987 i hyrwyddo ac annog diddordeb yn hanes, archaeoleg a diwylliannau gwareiddiadau hynafol y Dwyrain Agos.