Myfyriwr doethuriaeth yn ennill gwobr efydd ar gyfer ffiseg yn STEM for BRITAIN 2024
28 Mawrth 2024
Mae myfyriwr PhD ail flwyddyn o Brifysgol Caerdydd wedi ennill y wobr efydd am ffiseg mewn cystadleuaeth wyddonol ac arddangosfa bosteri o bwys a gafodd ei chynnal yn San Steffan.
Cyflwynodd Sama Al-Shammari ei hymchwil ar donnau disgyrchol i ASau yn STEM for BRITAIN 2024 yn San Steffan.
Daeth Sama o Ddulyn i Gaerdydd yn 2020 i astudio am ei MSc mewn Astroffiseg yn Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth y Brifysgol.
Yn dilyn ei gradd ôl-raddedig, penderfynodd Sama aros yng Nghaerdydd i gynnal ei hastudiaethau doethuriaeth yn y Sefydliad Archwilio Disgyrchiant dan oruchwyliaeth Dr Vivien Raymond.
Dywedodd hi: “Mae'r ymchwil rydyn ni'n ei wneud yma yn gyffrous. Rwy'n mwynhau pob eiliad ohono ac mae’r bobl sydd o fy nghwmpas mor garedig a chefnogol. Rwy'n mwynhau pob cyfle rwy'n ei gael i rannu fy ymchwil gydag eraill, ac mae'n dod â llawenydd i mi pan fyddan nhw’n cydnabod pa mor gyffrous yw e hefyd.”
Mae PhD Sama yn canolbwyntio ar ddefnyddio technegau dysgu peiriannol i wella amcangyfrif paramedr o ddata tonnau disgyrchol. Mae’n cael ei ariannu gan y Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg ac Ymchwil ac Arloesedd y DU, a hynny drwy'r Ganolfan Hyfforddiant Doethurol ym maes deallusrwydd artiffisial, dysgu peiriannol a chyfrifiadura uwch.
Ychwanegodd: “Mae astroffiseg yn bwnc gwych ac eang. Po fwyaf rydyn ni’n ei astudio ac yn archwilio ei gorneli cudd, y mwyaf rydyn ni’n ei ddeall am ein bydysawd.”
Roedd STEM for BRITAIN yn gyfle i Sama gyflwyno canfyddiadau o'i hymchwil PhD hyd yma i ASau ac ymarferwyr o ystod eang o sefydliadau gwyddonol, peirianneg a mathemateg pwysig sy'n cefnogi’r digwyddiad.
Ymwelodd Stephen Doughty, AS De Caerdydd a Phenarth â'r Brifysgol ar ôl y digwyddiad i ddysgu rhagor am waith Sama, a'r ymchwil sydd ar y gweill ymhlith y garfan ddoethurol ehangach yn yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth.
Dywedodd: “Roedd yn bleser cael cwrdd â Sama, i'w llongyfarch ar ei llwyddiant yn STEM for Britain, a gweld y gwaith gwych mae hi a'i chydweithwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn ei wneud.”
Ychwanegodd Dr Vivien Raymond, darllenydd yn y Sefydliad Archwilio Disgyrchiant ym Mhrifysgol Caerdydd a goruchwyliwr PhD Sama: “Mae hyn yn gyflawniad gwych gan Sama.”
Mae STEM for BRITAIN, o dan gadeiryddiaeth Stephen Metcalfe AS a gofal y Pwyllgor Seneddol a Gwyddonol, wedi’i gynnal ers 1997 a’i nod yw helpu aelodau’r ddau Dŷ yn San Steffan i ddeall y gwaith ymchwil rhagorol sy’n cael ei wneud ym mhrifysgolion y DU gan ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa.