Gwella bioamrywiaeth yng ngerddi Trevithick: menter gymunedol
25 Mawrth 2024
Mae gerddi Trevithick ar dir yr Ysgol wedi dod yn hafan i fywyd gwyllt lleol, diolch i ymdrechion ein technegwyr peirianneg a’n gwirfoddolwyr brwdfrydig.
Yn ystod Wythnos Cynaliadwyedd Prifysgol Caerdydd, daeth aelodau o’r staff, myfyrwyr ac aelodau o’r gymuned ynghyd i greu amgylchedd sy’n addas i gefnogi byd natur. Ymhlith rhai o’r prosiectau roedd:
- Gweithdy adeiladu cartrefi i fywyd gwyllt – Bu’r technegwyr peirianneg Mr Steve Mead, Ms Amy Parnell a Mr Sam Moeller yn goruchwylio gweithdy ar 6 Mawrth gydag wyth o wirfoddolwyr i saernïo cartrefi i fywyd gwyllt.
- Prosiect adfer mainc – Ar 7 Mawrth, bu’r technegydd peirianneg Mr Steven Rankmore yn gweithio gyda phedwar gwirfoddolwr i adfer hen fainc bren yng ngerddi Trevithick. Roedd y tasgau'n cynnwys sandio a farneisio.
- Menter llys, llestr a lle – Ar 7 Mawrth, galwodd y fenter gymunedol hon ar unigolion i roi unrhyw blanhigion neu botiau ar gyfer y tu allan i fywiogi gerddi Trevithick. Aeth y staff a’r myfyrwyr ati i blannu a gosod y gwyrddni o amgylch gerddi Trevithick.
- Creu cynefinoedd bywyd gwyllt – Gan barhau â'r ymrwymiad i fioamrywiaeth, trefnwyd digwyddiad arbennig ar gyfer 9 Mawrth. Gwahoddwyd gwirfoddolwyr i helpu i osod tai adar, gwestai pryfed, cartrefi i ddraenogod a gorsaf ddŵr, gan drawsnewid gerddi Trevithick yn lloches i fywyd gwyllt lleol.