Cychwyn ar antur: grymuso Indonesia trwy fodelu mathemategol
25 Mawrth 2024
Yn ddiweddar teithiodd carfan o bum ymchwilydd, o'n hysgol, ar draws Indonesia i gefnogi cydweithrediadau ymchwil parhaus ac i sefydlu partneriaethau newydd.
Yn Jakarta, cafodd yr awdurdod iechyd gan gynnwys y cyfarwyddwr ac uwch-dîm PK3D eu cyflwyno gan yr Athro Paul Harper a Dr Sarie Brice i sefydliad newydd a sefydlwyd i ddarparu gwasanaethau gofal brys. Darganfu ein tîm fod ein hymchwil, a ariannwyd gan EPSRC i ddechrau, wedi cyfrannu'n sylweddol at ddatblygu gwasanaeth ambiwlans brys hygyrch ar gyfer y 11 miliwn o drigolion yn y ddinas. Mae hyn yn cynnwys buddsoddiadau strategol yn nifer yr ambiwlansys a’u dosbarthiad, yn ogystal â’r ychwanegiad diweddar o barafeddygon ar feiciau modur.
Teithiodd y tîm wedyn i Brifysgol Bakrie lle buont yn cefnogi Dr Daniel Gartner a gyflwynodd gwrs byr ar optimeiddio i fyfyrwyr ac ymarferwyr iechyd. Yn Sefydliad Technoleg Bandung (ITB), un o'r prifysgolion gorau yn Indonesia, archwiliodd ein tîm brosiectau newydd gan weithio gyda staff ITB, myfyrwyr PhD ac awdurdodau iechyd ar draws Gorllewin Java, rhanbarth â phoblogaeth o 50 miliwn. Y nod oedd eu cynorthwyo i wneud penderfyniadau cynllunio pwysig ar leoliadau gwasanaethau iechyd a dyrannu adnoddau ar gyfer y 10-20 mlynedd nesaf. Un o ganlyniadau uniongyrchol y gweithdy hwn oedd cytuno ar bedwar prosiect MSc i'w cynnal gan ein myfyrwyr yr haf hwn.
Ar ôl taith fer i Malang, arweiniodd Dr Geraint Palmer a Dr Mark Tuson ar gyflwyno dau gwrs arbenigol i fyfyrwyr mathemateg israddedig ar Fodelu Efelychiadau gyda Python, a Chyfresi Amser a Rhagweld: Cymwysiadau Gofal Iechyd. Cafodd y cyrsiau hyn groeso cynnes, gan ysgogi trafodaethau am sefydlu partneriaeth barhaus i ddarparu cyrsiau pellach yn yr adran mathemateg.
Dros yr wythnos, cyflwynodd ein tîm gyrsiau byr i dros 100 o fyfyrwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Yn ogystal, cynhaliwyd trafodaethau ynghylch ceisiadau grant posibl ar y cyd gan gynnwys y rhai gyda'r Cyngor Prydeinig ac EPSRC, gan baratoi'r ffordd ar gyfer ymdrechion cydweithredol yn y dyfodol.