Cwrs busnes byr yn helpu ffoaduriaid a cheiswyr lloches i wella eu sgiliau busnes
21 Mawrth 2024

Mae Dysgu Gydol Oes ac Ysgol Busnes Caerdydd wedi gweithio gyda Chyngor Ffoaduriaid Cymru a myfyrwyr o Gymdeithas Ysgol Busnes Caerdydd i gyflwyno cwrs busnes am ddim i entrepreneuriaid.
Cafodd y modiwl Gwireddu eich Potensial mewn Busnes ei ddysgu mewn saith sesiwn a datblygodd yr wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau sy'n gysylltiedig â dechrau menter fusnes.
Prif nodwedd y profiad dysgu oedd datblygu syniadau a phrofi cynnyrch a gwasanaeth drwy adborth cwsmeriaid a chreu prototeip. Rhannwyd y prosiectau terfynol mewn asesiad gyflwyno.
Cyflwynodd yr Athro Tim Edwards, Dirprwy Ddeon Ymchwil, Effaith ac Arloesi yn Ysgol Busnes Caerdydd y cwrs hwn a dywedodd:
“Mae mentrau fel hyn yn dangos sut mae entrepreneuriaeth a syniadau arloesol yn gallu gwneud gwahaniaeth. “Mae’r ffoaduriaid sy’n astudio gyda ni ac sydd wedi cymryd rhan yn y cynllun hwn wedi magu hyder drwy gydol y broses i wella eu sefyllfa. Gall mentrau cymdeithasol fod yn bwysig wrth helpu unigolion a chymunedau i oresgyn rhwystrau.”
Professor of Organisation and Innovation Analysis
Dywedodd Dr Sara Jones, Darlithydd Cydlynu, Dysgu Gydol Oes:
"Rydym wrth ein bodd ein bod yn gallu cynnig cyfleoedd dysgu i ffoaduriaid a cheiswyr lloches sy'n byw yng Nghymru. Mae modiwlau byr fel Gwireddu eich Potensial mewn Busnes yn borth i gyrsiau eraill gan Brifysgol Caerdydd gan gynnwys ein rhaglen o gyrsiau rhan-amser i oedolion a llwybrau at radd.”
Cyflwynodd myfyrwyr eu syniadau busnes yn ystod eu gwers olaf a ddaeth yn ddathliad o'u cyflawniadau. Dywedodd Romeo Salem o Gaerdydd: "Roedd y cwrs Gwireddu eich Potensial mewn Busnes yn wych! Fe ddysgon ni sut i wireddu ein syniadau busnes. Os cewch gyfle i wneud y cwrs hwn, ewch amdani, ni fyddwch yn difaru.”
Rhagor o wybodaeth am gyrsiau rhan-amser i oedolion ym Mhrifysgol Caerdydd.