Y tensiynau rhwng gweinidogion a gweision sifil yn cael eu trafod mewn llyfr newydd
19 Mawrth 2024
Mae’r pwyslais cynyddol ar gyflwyno a rhoi polisïau ar waith wedi arwain at fwyfwy o densiynau rhwng gweinidogion y llywodraeth a gweision sifil, meddai academydd o Brifysgol Caerdydd.
Yn ei lyfr newydd, Ministerial Leadership, dadansoddoddyr Athro Leighton Andrews o Ysgol Busnes Caerdydd gyfweliadau â chyn-weinidogion a gynhaliwyd gan yr Institute for Government yn yr archif Ministers Reflect.
Ac yntau’n gyn-weinidog Cymru ei hun, dyma ddywedodd yr Athro Andrews: “Does dim amheuaeth bod newid sylweddol wedi bod yn y cysylltiadau rhwng gweision sifil a gweinidogion ers dyddiau Llafur Newydd. Dau ffactor arall sydd wedi cymhlethu ac ychwanegu at y drafodaeth hon ynghylch bywydau gwaith y gweinidogion yw Brexit a Covid. Dros y blynyddoedd diwethaf, cafwyd hefyd gyhuddiadau digynsail o fwlio gan weinidogion, a chafodd pob un o’r rhain eu hymchwilio’n annibynnol.
“Yn fy nadansoddiad o gyfweliadau gan weinidogion oedd yn ymadael dangoswyd nifer o rwystredigaethau, gan gynnwys diffyg profiad o lywodraethu ar y rheng flaen ymhlith yr uwch-weision sifil. Beirniadir y ffordd y mae'r gwasanaeth sifil yn rheoli prosiectau. Dadleua cyn-weinidogion na ellir gwahanu polisïau oddi wrth y broses o’u gweithredu. Mae hyn yn pylu’r ffiniau o ran rolau rhwng gweinidogion a gweision sifil.
“Mae'r llyfr yn cyflwyno un ffactor ychwanegol sy'n sail i hyn: y gydnabyddiaeth bod gweinidogion yn ymgyrchwyr gwleidyddol sy'n ceisio sicrhau newid, a bod mwy o weinidogion yn ystod y blynyddoedd diwethaf sy’n siarad yn fwy diamwys am lywodraethu a gweithredu. Wrth reswm, un peth yw ymgyrchu yng nghyd-destun consensws ar y normau cyfansoddiadol o ran rôl gweinidogion mewn perthynas â'r wladwriaeth; mae ymgyrchu sy'n gysylltiedig ag apêl boblogyddol yn erbyn y wladwriaeth neu’r 'Blob' tybiedig sy’n rheoli pob dim yn fater hollol wahanol.”