Yr Is-Ganghellor yn ymweld ag arweinwyr Prifysgol Caerdydd ym meysydd niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl
15 Mawrth 2024
Mae’r Athro Wendy Larner wedi ymweld ag Adeilad Hadyn Ellis i weld y gwaith arloesol sy’n cael ei wneud gan academyddion y Brifysgol ym meysydd niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl.
Y Sefydliad Arloesedd Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl oedd wedi gofalu am yr ymweliad ar 7 Mawrth. Roedd yn gyfle i daflu goleuni ar yr ymchwil sy’n cael ei gwneud ar draws y Brifysgol ym meysydd niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl a thynnu sylw’r Is-Ganghellor at gynnydd diweddar y Brifysgol mewn ymchwil.
Yn ystod yr ymweliad, cafwyd cyfres o gyflwyniadau fflach gan ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa o wahanol ganolfannau ymchwil y Brifysgol, gan gynnwys y Sefydliad Arloesedd Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl, y Ganolfan Geneteg Niwroseiciatrig a Genomeg, y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl, Canolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc, y Sefydliad Ymchwil Dementia, Uned Trwsio’r Ymennydd a Niwrotherapiwteg Fewngreuanol a’r Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau. Cynigiodd y cyflwyniadau hyn gipolwg ar ehangder a dyfnder yr ymchwil ryngddisgyblaethol sy’n cael ei gwneud ym Mhrifysgol Caerdydd.
Yn dilyn y cyflwyniadau, aeth yr Athro Larner ar daith o amgylch labordai’r Sefydliad Arloesedd Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl yng nghwmni’r Athro Lawrence Wilkinson, sef cyd-gyfarwyddwr arweiniol y sefydliad. Ar y daith, tynnwyd sylw at y cyfarpar diweddaraf un sydd ar gael i ymchwilwyr, yn ogystal â gwaith hollbwysig myfyrwyr PhD ac ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa yn y sefydliad.
Dywedodd yr Athro Larner: “Mae’r gwaith arloesol ym maes niwrowyddoniaeth ac ymchwil iechyd meddwl sy’n digwydd yn ein prifysgol yn ysbrydoledig iawn."
Dywedodd yr Athro Wilkinson: “Pleser oedd gofalu am ymweliad yr Is-Ganghellor â’n cymuned ymchwil, gan gynnwys tynnu sylw at ein gwaith rhagorol a sut rydyn ni’n dod ynghyd er mwyn sicrhau cynnydd arloesol sy’n cael effaith ar iechyd a ffyniant y cyhoedd.”
Mae ymweliad yr Is-Ganghellor yn dyst i ymrwymiad y Brifysgol i feithrin rhagoriaeth mewn ymchwil ac arloesedd ym meysydd niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl. Mae’r Sefydliad Arloesedd Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl wedi ymrwymo’n gadarn o hyd i’w genhadaeth i wthio ffiniau ymchwil ym meysydd niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl, a hynny drwy gydweithio â phartneriaid i sicrhau bod ymennydd a meddwl pawb yn iach.