A all meddyginiaethau annwyd dros y cownter drin COVID-19?
18 Mawrth 2024
Mae ymchwil gan Brifysgol Caerdydd yn dangos bod triniaethau annwyd a ffliw dros y cownter yn ddiogel ac yn effeithiol ar gyfer rheoli symptomau COVID-19 llai difrifol gartref ac y gallent helpu i leddfu'r baich ar ysbytai pan fydd achosion uchel o'r salwch yn y boblogaeth.
Arweiniwyd yr astudiaeth gan Ron Eccles, Athro Emeritws yn Ysgol y Biowyddorau, a chanfu y gellir defnyddio meddyginiaethau a ddefnyddir i drin symptomau annwyd a'r ffliw – megis meddyginiaethau lleddfu poen, meddyginiaethau lleihau twymyn, moddion llacio a lleddfwyr peswch – i reoli haint COVID-19 llai difrifol gartref er nad ydynt wedi'u trwyddedu ar gyfer gwneud hyn.
Dywedodd yr Athro Eccles: “Mae mwy na chwe miliwn o bobl wedi marw o ganlyniad i bandemig COVID-19. Ar hyn o bryd, gyda phoblogaeth y byd yn dod i fwy o gysylltiad â feirws COVID-19 a chyda rhaglenni brechu torfol, ystyrir bod y clefyd difrifol hwn, sy'n bresennol yn y mwyafrif o'r boblogaeth, bellach wedi esblygu i fod yn glefyd llawer llai difrifol sy'n debyg i salwch annwyd neu ffliw y gellir ei drin gartref.
“Gall triniaethau dros y cownter ar gyfer annwyd, ffliw a heintiau'r llwybr anadlol uchaf helpu i leihau symptomau megis twymyn, poen yn y cyhyrau, peswch, trwyn yn rhedeg, dolur gwddf a gorlenwad trwynol – sef y prif symptomau sy'n gysylltiedig â heintiau COVID-19 llai difrifol. Ond, ar hyn o bryd, dim ond ar gyfer trin symptomau annwyd a ffliw ac nid ar gyfer trin yr un symptomau sy'n gysylltiedig â COVID-19 y mae meddyginiaethau dros y cownter wedi’u trwyddedu.”
Mae’r tîm yn cynnwys arbenigwyr mewn feirysau anadlol o Brifysgol Caerdydd, Prifysgol Laval yn Quebec, Prifysgol Hong Kong, Prifysgol Utah ac Ysgol Meddygaeth Prifysgol Missouri. Gwnaethant gynnal adolygiad llenyddiaeth ac archwilio eu cronfeydd data eu hunain i ddeall a yw triniaethau annwyd a ffliw dros y cownter yn driniaethau diogel ac effeithiol ar gyfer yr un symptomau sy'n gysylltiedig â COVID-19.
Canfuant y gallai symptomau tebyg i annwyd a ffliw sy'n gysylltiedig â COVID-19 gael eu trin gan feddyginiaethau dros y cownter a'i bod yn rhesymol i'r meddyginiaethau hyn gael eu trwyddedu gan yr awdurdodau rheoleiddio i drin y symptomau hyn, waeth pa feirws sy'n eu hachosi.
Ychwanegodd yr Athro Eccles: “Mae llwyddiant y rhaglenni brechu rhag COVID-19 a’r ffaith bod pobl yn dod i gysylltiad â’r feirws yn golygu y bydd y rhan fwyaf o bobl sy’n dal COVID-19 yn profi haint llai difrifol y gellir ei reoli gartref. Mae'n bwysig bod pobl yn gwybod sut i reoli eu symptomau gartref mewn ffordd ddiogel ac effeithiol.
“Fodd bynnag, mae rhai pobl yn meddwl y gallai triniaethau dros y cownter, megis ibuprofen a ddefnyddir i drin twymyn, waethygu canlyniad COVID-19.
"Nid yw'r data a ddadansoddwyd gennym yn awgrymu bod ibuprofen yn gwaethygu canlyniadau COVID-19, ac mae astudiaethau mwy diweddar yn dangos y gallai triniaeth gydag ibuprofen wella'r canlyniad trwy atal yr ymateb llidiol."
“Mae ein hymchwil yn cadarnhau y gellir defnyddio triniaethau annwyd a ffliw dros y cownter i drin symptomau llai difrifol COVID-19. Mae hyn yn golygu y gallwn sicrhau bod pobl yn cael gafael ar y triniaethau cywir wrth drin COVID-19 gartref.”