Cyfarfod blynyddol Sefydliad Hodge yn trafod seiciatreg manwl gywirdeb
13 Rhagfyr 2023
Roedd y Sefydliad Arloesi er Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl yn hynod falch o gynnal cyfarfod blynyddol Sefydliad Hodge pan ddaeth mwy na 170 o bobl ynghyd.
Roedd y gynhadledd, a gynhaliwyd ar 30 Tachwedd yn Adeilad Hadyn Ellis y Brifysgol, yn canolbwyntio ar bwnc seiciatreg manwl gywirdeb. Roedd yn cynnwys sgyrsiau difyr gan arbenigwyr academaidd a thrydydd sector o bob rhan o’r DU, ac ymhlith y gwesteion roedd academyddion prifysgol, ymchwilwyr gyrfa gynnar, a Karen a Jonathan Hodge, Ymddiriedolwyr Sefydliad Hodge.
Mae trin anhwylderau iechyd meddwl yn parhau i fod yn her o bwys yn yr 21ain ganrif, er gwaethaf yr adnoddau sylweddol a glustnodir i'r achos. Yn aml, bydd dulliau diagnostig traddodiadol annigonol oherwydd natur amrywiol yr anhwylderau hyn. Eleni, bu cyfarfod blynyddol Sefydliad Hodge yn ystyried y graddau y mae seiciatreg manwl gywirdeb yn llwybr addawol i ddeall a thrin y cyflyrau hyn yn fwy effeithiol.
Dechreuodd y sesiwn gyntaf yng nghwmni’r Athro Bruce Cuthbert, pennaeth prosiect Meini Prawf Maes Ymchwil y Sefydliad Cenedlaethol er Iechyd Meddwl, sy’n cynnig ffordd fwy cynnil o gategoreiddio anhwylderau meddwl. Gan gyfuno mesurau swyddogaethol, ymddygiadol a niwrofiolegol, mae'r model hwn yn addo dulliau diagnosis a thriniaethau sy’n fwy manwl gywir.
Ar ôl y cyflwyniad hwn, bu Dr Sophie Legge yn pwysleisio rôl geneteg wrth adnabod biofarcwyr er mwyn cynnig diagnosis cywir, a bu Dr Antonio Pardinas yn amlygu pwysigrwydd ffarmacogenomeg wrth deilwra triniaethau i gleifion unigol. Yn olaf, cyflwynodd Alicia Campbell ddull MeOmics sy’n defnyddio data cleifion i ddeall natur heterogenaidd sgitsoffrenia. Gan astudio rhwydweithiau niwral, nod y dull hwn yw cynnig triniaethau wedi'u targedu i sicrhau canlyniadau gwell.
Dechreuodd yr ail sesiwn yng nghwmni’r Athro Jordan Smoller, Athro Seiciatreg yn Ysgol Feddygol Harvard, a drafododd botensial meddygaeth manwl gywirdeb wrth chwyldroi diagnosis a thriniaeth seiciatrig gan ddefnyddio data mawr. Mae dulliau data mawr, megis dysgu peirianyddol, yn cynnig ffyrdd inni ddeall rhagor am sut i asesu risg unigol ac optimeiddio’r driniaeth. Er enghraifft, mae modelau rhagfynegol sy’n defnyddio setiau data mawr yn perfformio'n well na dulliau traddodiadol o ran adnabod risg hunanladdiad, gan arwain clinigwyr i lunio cynlluniau gofal personol. At hynny, mae data genomig o gymorth wrth adnabod biofarcwyr sy'n gysylltiedig ag anhwylderau seiciatrig, ac mae hyn yn galluogi ymyraethau wedi'u targedu. Gan ddefnyddio'r cynnydd hwn yn ein gwybodaeth, gall clinigwyr deilwra triniaethau sy’n seiliedig ar nodweddion unigol, a thrwy hynny wella deilliannau cleifion.
Dilynwyd hyn gan yr Athro Simon Ward a siaradodd am newyddion diweddaraf y Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau ar ddatblygu triniaethau ffarmacolegol newydd ym maes sgitsoffrenia. Gan gydweithio ag arbenigwyr ar draws disgyblaethau, nod y Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau yw troi gwybodaeth fiolegol yn therapïau effeithiol. Er gwaethaf heriau'r gorffennol o ran buddsoddi fferyllol, mae dulliau meddygaeth manwl gywirdeb yn cynnig gobaith o'r newydd ym maes datblygu cyffuriau.
Yn rhan olaf y sesiwn, cynigiodd yr Athro Adam Hedgecoe safbwynt cymdeithasegol ar seiciatreg manwl gywirdeb, gan drafod ei heffaith ar ganfyddiadau cleifion a chlinigwyr. Trafododd y "cafn ansicrwydd," gan amlygu lefelau amrywiol o sicrwydd ymhlith rhanddeiliaid gwahanol ynghylch technegau meddygol newydd. Yn ogystal, ystyriodd y cysyniad o gymunedau ymarfer ym maes seiciatreg a goblygiadau’r rhain o ran addasu i ddulliau arloesol.
Daeth y sesiwn academaidd i ben pan gafwyd panel holi ac ateb a oedd yn cynnwys arbenigwyr o nifer o sefydliadau a drafododd faterion dybryd sy’n ymwneud â seiciatreg manwl gywirdeb. Ymhlith y pynciau a drafodwyd roedd cysoni dulliau manwl gywirdeb â labeli diagnostig i fynd i’r afael â rhagfarn sy’n rhan o algorithmau dysgu peirianyddol. Roedd y trafodaethau hyn yn tanlinellu’r ansicrwydd parhaus yn y maes a’r angen am ymdrechion ar y cyd i ddatblygu ein dealltwriaeth o anhwylderau iechyd meddwl a’r ffordd rydyn ni’n trin y rhain.
Daeth y diwrnod i ben pan gafwyd darlith gyhoeddus gan Marion Leboyer, Athro Seiciatreg ym Mhrifysgol Paris Est Créteil. Mewn darlith ysgogol, siaradodd yr Athro Leboyer am ei hymchwil i’r gred bellach fod y llid gradd isel hwn yn digwydd o ganlyniad i ryngweithio rhwng ffactorau amgylcheddol megis heintiau, straen, llygredd, neu ffordd o fyw afiach sydd â chefndir imiwn-genetig.
Roedd y cyfarfod blynyddol yn llwyddiant mawr a chafwyd llawer o drafodaethau i ysgogi’r meddwl. Hoffai'r Brifysgol ddiolch i Sefydliad Hodge am ei gefnogaeth barhaus.