Prif Economegydd Banc Lloegr yn rhoi araith ar bolisi ariannol yn Ysgol Busnes Caerdydd
12 Mawrth 2024
Rhoddodd Huw Pill, Prif Economegydd Banc Lloegr a Chyfarwyddwr Gweithredol Dadansoddi Ariannol, araith ar gyfathrebu polisi ariannol yn Ysgol Busnes Caerdydd yn ddiweddar.
Yn ystod yr araith i staff a myfyrwyr yn Ysgol Busnes Caerdydd ddydd Gwener 1 Mawrth 2024, trafododd ddyluniad a pherfformiad y strategaeth sy'n llywio penderfyniadau polisi ariannol yn y DU. Rhoddodd ei farn hefyd ar y rhagolygon economaidd presennol a'i oblygiadau ar gyfer polisi ariannol.
Yn ystod yr araith, eglurodd Huw bwysigrwydd strategaeth y Pwyllgor Polisi Ariannol (MPC) sy'n cynnig fframwaith er mwyn cynllunio ar gyfer argyfyngau yn y dyfodol a pharatoi adnoddau a chamau gweithredu i ymateb iddynt.
Wrth drafod manteision gwneud y strategaeth polisi ariannol yn hysbys i randdeiliaid allweddol a sicrhau eu bod yn deall y strategaeth, eglurodd fod tryloywder yn chwarae rhan hollbwysig.
Wrth edrych i'r dyfodol, mae'n debygol y bydd Banc Lloegr yn mabwysiadu system newydd sy'n seiliedig ar senarios ar gyfer rhagolygu economaidd. Bydd hyn yn caniatáu i'r Banc ddangos beth allai ddigwydd i gyfraddau llog pe bai argyfyngau megis cau'r Môr Coch yn llwyr i longau.
Dywedodd Huw ei fod yn ffafrio system sy'n cynnwys cyfathrebu'r cwestiynau 'beth os', yn hytrach na chanolbwyntio ar amcanestyniad canolog i'r economi a chwyddiant."
Mae Ben Bernanke, cyn-Gadeirydd y Gronfa Ffederal, yn cwblhau adolygiad o ragolygon y Pwyllgor. Eglurodd Huw y gallai hyn brofi i fod yn "gyfle unwaith mewn oes i ni foderneiddio fframwaith ein polisi ariannol". Ychwanegodd y gallai’r Pwyllgor a Banc Lloegr "geisio dysgu gwersi o’u profiadau diweddar ac esblygu yn unol â hynny i wneud eu fframwaith polisi ariannol yn fwy cadarn ac effeithiol".
I gloi'r digwyddiad, cynhaliodd yr Athro Melanie Jones sesiwn holi ac ateb gyda'r gynulleidfa. Ymhlith y pynciau a drafodwyd oedd penderfynyddion sylfaenol chwyddiant ac a yw twf economaidd, yn ogystal â sefydlogrwydd, yn darged i Fanc Lloegr.
Darllen yr araith lawn.