Creu partneriaeth i ddeall dementia yn well
12 Mawrth 2024
Yn sgil partneriaeth newydd, bydd ymchwilwyr yn gallu dod o hyd i wybodaeth newydd am y newidiadau strwythurol sy'n digwydd mewn cleifion â chlefyd Parkinson ac Alzheimer drwy ddefnyddio technoleg delweddu blaengar a dysgu peirianyddol.
Nod y gwaith ar y cyd rhwng Canolfan Delweddu Ymchwil yr Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC) a Roche, un o gwmnïau biotechnoleg mwyaf y byd, yw defnyddio MRI uwch i astudio newidiadau yn yr ymennydd yn achos clefyd Parkinson ac Alzheimer - boed y newidiadau strwythurol mwy eu maint yn yr ymennydd neu’r newidiadau ar lefel ficrosgopig.
Bydd y tîm o ymchwilwyr, dan arweiniad yr Athro Derek Jones a Dr Marco Palombo yn CUBRIC, yn defnyddio datblygiadau modern mewn technegau delweddu i ehangu dealltwriaeth wyddonol o'r newidiadau strwythurol llai yn yr ymennydd sy'n digwydd yn achos clefyd Parkinson ac Alzheimer, a bydd hyn yn y dyfodol yn gwella’r gwaith o ganfod clefydau yn gynharach.
Dyma a ddywedodd yr Athro Derek Jones, yr Ysgol Seicoleg a Chyfarwyddwr CUBRIC: “Er y gall MRI traddodiadol ddod o hyd i newidiadau strwythurol mwy sylweddol yn achos dementia, bydd datblygiadau diweddar mewn technegau delweddu yn ein caniatáu i astudio newidiadau yn yr ymennydd ar lefel ficrostrwythurol mewn ffordd anymwthiol.
Mae ein hastudiaeth yn defnyddio sganiwr Siemens Connectom a sganiwr MRI Siemens 7T, ynghyd â modelu mathemategol a dysgu peirianyddol blaengar. Mae’r cyfuniad unigryw hwn yn ein galluogi i ymchwilio i newidiadau bach a mawr yn ymennydd y rheini sydd â chlefyd Parkinson ac Alzheimer.”
Ychwanegodd Dr Marco Palombo, Yr Ysgol Seicoleg a’r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg: “Drwy wella ein dealltwriaeth, gallwn helpu i ddatblygu prosesau i allu rhoi diagnosis cynharach, monitro ymatebion i driniaethau a deall effeithiau triniaethau newydd posibl yn seiliedig ar gyffuriau. Yn rhan bwysig o'r prosiect cyntaf hwn gyda Roche, byddwn ni’n canolbwyntio ar allu defnyddio ein technegau newydd mewn sganwyr MRI clinigol, gan sicrhau'r manteision mwyaf i bob claf. Bydd datblygu dulliau dysgu peirianyddol y gellir eu hesbonio, a hynny’n gyfrifol, ym maes prosesu delweddau, dadansoddi a dehongli yn hollbwysig i gael effaith eang mewn clinigau.”
“Drwy weithio mewn partneriaeth â Roche gallwn ni ddefnyddio datblygiadau blaengar ym maes delweddu MRI i’n helpu i ddeall y clefyd a’n helpu yn y dyfodol i ganfod y clefyd yn gynharach,” meddai’r Athro Jones.