Gweithwyr technegol proffesiynol GW4 ym maes ymchwil yn sicrhau £1.97 miliwn i ddatblygu arbenigedd technegol a mynd i’r afael â heriau’r diwydiant
18 Mawrth 2024
Mae £1.97 miliwn wedi’i ddyfarnu ar gyfer prosiect arloesol newydd a fydd yn datblygu galluoedd gweithwyr technegol proffesiynol ym maes ymchwil ac yn eu helpu i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i weithio gyda phartneriaid diwydiannol er mwyn mynd i’r afael â heriau yn y byd go iawn.
Mae’r cyllid gan Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI) a Chyngor Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg (EPSRC) wedi’i sicrhau gan brifysgolion GW4, sef Prifysgol Caerfaddon, Prifysgol Bryste, Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Caerwysg. Mae’r prosiect yn cael ei arwain gan Dr Anne Lubben, sef Cyfarwyddwr Seilwaith a Chyfleusterau Ymchwil Prifysgol Caerfaddon, a chafodd ei ddatblygu gan dîm o weithwyr technegol proffesiynol a gyflwynodd y cais.
Mae gweithwyr technegol proffesiynol ym maes ymchwil yn arbenigwyr technegol hynod wybodus sydd â sgiliau ac arbenigaethau unigryw. Er hynny, nid oes ganddynt yr amser yn aml iawn i fanteisio ar gyfleoedd pwrpasol i ddatblygu’n broffesiynol. Hefyd, mae cyfleoedd o’r fath yn brin. Ar yr un pryd, gall ymchwil a datblygiad yn y diwydiant yn aml gael eu cyflymu’n sylweddol drwy ddefnyddio galluoedd ac arbenigedd technegol mewn prifysgolion, ond mae’r cysylltiadau hyn yn aml ar goll neu wedi’u cuddio o fewn rhaglenni ymchwil academaidd. Mae hyn yn golygu bod llawer o weithwyr technegol proffesiynol yn colli cyfleoedd i ymgysylltu â’r diwydiant yn uniongyrchol a dangos a rhannu eu harbenigedd.
Nod rhaglen Heriau Trawsddisgyblaethol Datblygu Arbenigwyr Technegol i’r Diwydiant (X-CITED) yw mynd i’r afael â’r heriau hyn, a hynny drwy sefydlu model amlochrog er mwyn creu llif o weithwyr technegol proffesiynol ym maes ymchwil a’i wella. Mae hynny’n mynd y tu hwnt i gael rhaglen hyfforddi a datblygu syml ac yn sicrhau bod y gweithwyr technegol proffesiynol hynny sy’n brofiadol yn gwireddu eu potensial llawn er budd ehangach cymdeithas, a hynny drwy ymgysylltu â’r diwydiant a’r genhedlaeth nesaf o weithwyr technegol proffesiynol.
Dywedodd Dr Kieran Aggett, Cyd-Arweinydd a Swyddog Arbrofol X-CITED ym Mhrifysgol Caerdydd: “Mae hi wedi bod yn wych sicrhau cyllid gan EPSRC ar gyfer rhaglen X-CITED. Mae’r rhaglen yn galluogi gweithwyr technegol proffesiynol ym maes ymchwil i fanteisio ar gyfleoedd pwrpasol i ddatblygu’n broffesiynol, sy’n aml ar goll mewn pecynnau hyfforddiant confensiynol.
Y gobaith yw y bydd X-CITED, a fydd yn cael ei chynnal dros dair blynedd, yn dangos dulliau newydd yn rhanbarthol o ddatblygu sgiliau proffesiynol i’r sector. Bydd yn canolbwyntio ar sawl gweithgaredd craidd, gan gynnwys harneisio talent ar draws prifysgolion GW4 i greu rhwydweithiau o gydweithwyr technegol proffesiynol ym maes ymchwil a Chymunedau Ymarfer, gan ddatblygu ecosystem ymchwil gyfoethog a dull rhanbarthol o gyfnewid gwybodaeth sy’n seiliedig ar arbenigaethau allweddol. Bydd y rhaglen arloesol hefyd yn datblygu mecanwaith sy’n galluogi partneriaid diwydiannol i weithio gyda’r gweithwyr technegol proffesiynol a mynd i’r afael â heriau’r diwydiant, a hynny drwy gyfres o fforymau trafod a phrosiectau Heriau’r Diwydiant, gan bontio’r blwch rhwng y byd academaidd a’r diwydiant a sicrhau effaith yn y byd go iawn.
Ochr yn ochr â hyn, bydd X-CITED yn sefydlu Banc Talent o weithwyr technegol proffesiynol dan hyfforddiant. Y diben yw rhoi hyfforddiant iddynt ar amrywiaeth o dechnegau, cynyddu hyd yr eithaf eu hymwneud â phrosiectau ar y cyd a phartneriaid diwydiannol a meithrin llwybrau mwy amrywiol i yrfaoedd technegol. Bydd Banc Talent hefyd yn helpu’r rhai sy’n weithwyr technegol proffesiynol ym maes ymchwil ar hyn o bryd i neilltuo amser i’w datblygiad proffesiynol eu hunain, gan hybu gwydnwch a chynaliadwyedd cyfleusterau ymchwil y prifysgolion.
Mae rhaglen X-CITED yn cael ei chynnal yn rhan o GW4WARD – menter i ysgogi datblygiad proffesiynol ymhlith staff technegol ar draws GW4. Mae’r rhaglen yn cyd-fynd yn agos ag addewid prifysgolion GW4 i fodloni gofynion yr Ymrwymiad i Dechnegwyr, sy’n ceisio helpu pob gweithiwr technegol proffesiynol ym maes ymchwil ar draws prifysgolion GW4 i sicrhau cydnabyddiaeth, bod yn weledol a chael cyfleoedd i ddatblygu. Mae hefyd yn rhoi sylw i lawer o’r argymhellion yn adroddiad Comisiwn TALENT.
Dywedodd Cyfarwyddwr Cynghrair GW4, Dr Joanna Jenkinson MBE: “Mae gweithwyr technegol proffesiynol ym maes ymchwil yn chwarae rôl hollbwysig yn y gwaith o wthio ein rhaglenni ymchwil ac arloesedd yn eu blaenau. Mae gennym ni oddeutu 1,300 aelod o staff technegol ar draws pedwar sefydliad. Yn aml, nhw yw’r bobl fwyaf pwysig mewn unrhyw adran yn y brifysgol. Maen nhw’n rheoli ac yn cynnal a chadw’r cyfleusterau ac yn cynnig arbenigedd gwerthfawr a mewnbwn deallusol i wneud addysgu ac ymchwil o ansawdd uchel yn bosibl."
Dywedodd Jane Nicholson, Cyfarwyddwr Sail Ymchwil Cyngor Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg: “Drwy’r 11 prosiect newydd hyn, bydd cyllid y Platfform Technegol Strategol yn helpu i feithrin cymuned fywiog a deinamig sy’n ffynnu o dechnegwyr ymchwil. Bydd y gymuned hon nid yn unig yn cefnogi ac yn rhoi hwb i ymchwil arloesol yn y DU ond hefyd yn meithrin rhwydwaith sylweddol o dechnegwyr ymchwil medrus ac uchel eu parch. Mae’r DU yn arwain y byd ym maes ymchwil a datblygu uwch-dechnoleg, ac mae’n hanfodol ein bod yn cefnogi’n llawn holl ehangder y sgiliau sydd eu hangen ar y gweithlu sy’n arloesi yn hyn o beth.”
Bydd X-CITED yn rhan o rwydwaith o 11 Platfform Technegol Strategol sy’n cael eu hariannu gan UKRI ac EPSRC, a hynny’n rhan o fenter i gefnogi buddsoddiadau strategol mewn cymorth, hyfforddiant a datblygiad systematig er mwyn hyrwyddo, galluogi a grymuso’r gymuned o weithwyr technegol proffesiynol ym maes ymchwil ym mhrifysgolion y DU.
Bydd pob un o’r 11 prosiect yn elwa o brofiad helaeth y Cyngor Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg (EPSRC) o gefnogi peirianwyr meddalwedd ymchwil, glanhau data, rheolwyr cyfleusterau, ac arbenigwyr offer, yn ogystal â datblygu cymunedau.