Y newyddiadurwr Laura Trevelyan yn dweud bod taer angen diogelu archifau hanesyddol sydd mewn perygl yn y Caribî
7 Mawrth 2024
Mae un o gyn-newyddiadurwyr y BBC, Laura Trevelyan, yn dweud y dylai llywodraeth Prydain a’i sefydliadau ymchwil blaenllaw ymrwymo’n ariannol i ddiogelu archifau sydd mewn perygl yn y Caribî.
Roedd hynafiaid Laura yn berchenogion caethweision absennol ar ynys Grenada y Caribî tan i gaethwasiaeth gael ei dileu ym 1834. Wrth iddi siarad yn y gyntaf o Ddarlithoedd Syr Tom Hopkinson ym Mhrifysgol Caerdydd, heriodd sefydliadau Prydain i drafod eu cysylltiadau â’r fasnach gaethweision a gweithredu’n gyflym i ddiogelu dyfodol dogfennau hanesyddol prin.
A hithau’n un o gyn-fyfyrwyr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant Prifysgol Caerdydd, dywedodd Laura: “Mae taer angen diogelu archifau hanesyddol sydd mewn perygl ar draws y Caribî. Mae’r cofnodion papur hyn o faniffestau llongau, cyfrifiadau ar blanhigfeydd, genedigaeth a marwolaeth y caethweision a phapurau newydd yn rhoi cipolwg ar fywydau’r caethweision, sy’n helpu i greu darlun o’r union bobl dan sylw.
“Mae ysgolheigion wedi dadlau bod natur dameidiog yr archifau hyn yn gwaethygu anghyfiawnder caethwasiaeth. Peth poenus yw peidio â gwybod pwy oedd eich hynafiaid ac o ble ddaethon nhw.
“I’r rhai sy’n disgyn o gaethweision, dydy hi ddim yn hawdd cael gafael ar y cofnodion hyn. Ychydig iawn o archifau’r Caribî sydd ar gael ar-lein neu wedi’u digideiddio. Mae tymereddau poethach a heriau ariannol yn gwneud gwaith archifwyr y Caribî yn anodd dros ben.
“Mae deucanmlwyddiant dileu caethwasiaeth yn 2034 yn gyfle i adrodd stori caethwasiaeth o safbwynt y caethweision mewn ffordd sy’n cysylltu’r gorffennol â’r presennol, a hynny ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
“Byddwn i’n dadlau y dylai llywodraeth Prydain a’i sefydliadau ymchwil blaenllaw ymrwymo’n ariannol i ddiogelu archifau sydd mewn perygl yn y Caribî.”
Ychwanegodd: “Dydy hi ddim yn ddigon i ddigideiddio dogfennau a gwneud dim byd arall. Heb gymorth ysgolheigion i’w dehongli, dydy papurau hynafol ddim yn dod yn fyw.
“Dychmygwch pe bai modd cysylltu’r archif ar-lein Caribïaidd rhyngweithiol a helaeth hwn â’r archifau Caribïaidd hynny sy’n bodoli’n barod yn Llyfrgell Prydain ac mewn mannau eraill ym mhrifysgolion Prydain.”
Ym mis Chwefror 2023, dychwelodd Laura a chwe aelod o’i theulu i Grenada â llythyr cyhoeddus yn ymddiheuro am rôl eu hynafiaid mewn caethwasiaeth. Cyfrannodd £100,000 yn bersonol tuag at brosiectau addysg yn Grenada.
Dywedodd Laura: “Mae tuedd i Brydain gofio dim ond yr hyn y mae eisiau ei gofio am ei rôl yn yr economi erchyll hwnnw. Mae dyletswydd arnon ni i wynebu’r gorffennol – yn newyddiadurwyr, ac yn ddinasyddion democratiaeth. Dydy cymdeithasau sy’n gwrthod y gorffennol – neu sy’n gwyrdroi hanes – ddim yn gymdeithasau iach.”
Dywedodd Pennaeth Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant Prifysgol Caerdydd, Dr Matt Walsh: “Hoffwn i ddiolch i Laura am sôn am bwnc mor bwysig. A hithau’n un o gyn-fyfyrwyr Newyddiaduraeth yr Ysgol ac yn newyddiadurwr enwog sydd â 30 mlynedd o brofiad, Laura oedd y dewis perffaith i anrhydeddu cof a gyrfa newyddiadurol Syr Tom Hopkinson, sef sefydlwr gwreiddiol yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant heddiw ym Mhrifysgol Caerdydd.”