Coedwig gynharaf y Ddaear wedi’i datgelu mewn ffosilau yng Ngwlad yr Haf
7 Mawrth 2024
Mae gwyddonwyr wedi darganfod olion coedwig ffosil hynaf y Ddaear ar arfordir gogledd Dyfnaint a Gwlad yr Haf yn y DU.
Credir bod y coed, sydd tua 390 miliwn o flynyddoedd oed, yn rhan o goedwig helaeth oedd yn gorchuddio arfordir dwyreiniol cyfandir yr Hen Dywodfaen Coch, oedd yn rhan o Ewrop bryd hynny.
Mae hyn yn gwneud coedwig Gwlad yr Haf bedair i bum miliwn o flynyddoedd yn hŷn na deiliad blaenorol y record yn Cairo, talaith Efrog Newydd yn yr Unol Daleithiau.
Cafodd y goedwig ei darganfod gan ymchwilwyr o Brifysgol Caergrawnt a’i dynodi ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae’r ffosilau’n dangos boncyffion anghyflawn sy’n mesur hyd at ddau fetr o hyd, ynghyd â changhennau bach, o fath o goeden arloesol o’r enw cladoxylopsidau.
Yn ôl y tîm, roedd cladoxylopsidau yn dominyddu ecosystemau daearol am gyfnod o oddeutu pum miliwn o flynyddoedd cyn dyfodiad coed coediog mwy modern tua 385 miliwn o flynyddoedd yn ôl.
Mae eu canfyddiadau, a gyflwynir yn y Journal of the Geological Society, yn taflu goleuni newydd ar esblygiad coed a'r rhan drawsnewidiol maent wedi’i chwarae wrth lunio'r byd rydym yn byw ynddo heddiw.
Meddai Dr Christopher Berry, a ddynododd y ffosilau ac sy’n Uwch Ddarlithydd yn Ysgol Gwyddorau Daear ac Amgylcheddol Prifysgol Caerdydd: “Y coed Calamophyton hyn yw’r coed ffosil hynaf a ddarganfuwyd erioed ym Mhrydain, ac maent yn rhan o’n hanes llystyfiannol sydd wedi bod ar goll hyd yma.
“Hyd yma, deiliaid y record am y coedwigoedd ffosil hynaf, lle mae bonion coed yn cael eu gwarchod lle roedden nhw’n tyfu, yw’r rhai a ddarganfuwyd yn Nhalaith Efrog Newydd, yn Cairo a Gilboa, sydd tua 385 miliwn o flynyddoedd oed.”
Ar yr olwg gyntaf, mae'r Calamophyton yn debyg i goed palmwydd, ond nid ydynt yn perthyn i’r mathau o goed sydd ar y Ddaear heddiw.
Yn hytrach na phren solet, roedd eu boncyffion yn wag yn y canol, gyda chylch o linynnau cynnal prennaidd o amgylch y tu allan. Yn hytrach na dail, roedd eu canghennau wedi'u gorchuddio â channoedd o strwythurau tebyg i frigau.
Roedd y coed hefyd yn llawer byrrach na'u disgynyddion, rhwng dau a phedwar metr o uchder, ac wrth iddynt dyfu, roeddent yn gollwng eu canghennau isaf, ac roedd y gwastraff llystyfiant hwn yn cynnal infertebratau ar lawr y goedwig.
Daeth y tîm o hyd i dystiolaeth o fonion y coed a boncyffion wedi syrthio, gan ddangos am y tro cyntaf y cyd-destun amgylcheddol a’r bylchau rhwng y coed tra’r oeddent yn fyw.
Gwyliwch cyfweliad gyda Dr Christopher Berry ar YouTube
Ychwanegodd Dr Berry: “Mae siâp a ffurf yr adeileddau hyn gyda’i gilydd yn awgrymu’n gryf bod y Calamophyton yn sefyll ar hyd llethr uwch wrth ymyl sianel afon fechan.
“Roeddwn yn gallu adnabod y boncyffion gan fy mod wedi astudio’r mathau hyn o ffosilau ers 30 mlynedd, yn enwedig ar ôl gweithio ar yr enghreifftiau gorau a mwyaf cyflawn o Calamophyton o Wlad Belg a’r Almaen, lle maent yn adnabyddus ond yn gymharol brin.
“Serch hynny, roedd yn dipyn o sioc. Ar ôl teithio’r byd i chwilio am y coedwigoedd cynharaf, mae’n rhyfeddol gwybod bod eu bod yn weledol o arfordir de Cymru.”
Dywed y tîm fod y safle yng ngogledd Dyfnaint a Gwlad yr Haf yn debygol o fod yn llawer agosach i Wlad Belg a’r Almaen yn y cyfnod Defonaidd, cyn iddo gael ei adleoli ar hyd ffawt ddaearegol enfawr yn ystod y cyfnod Carbonifferaidd, ar adeg o gywasgu cramennol a ffawtio pan roedd Affrica yn taro yn erbyn Ewrop.
Meddai awdur cyntaf yr astudiaeth, yr Athro Neil Davies o Adran Gwyddorau Daear Prifysgol Caergrawnt: “Yn ystod y cyfnod Defonaidd, newidiodd bywyd ar y Ddaear yn sylfaenol. Roedd y cyfnod hefyd wedi newid y ffordd roedd dŵr a thir yn rhyngweithio â'i gilydd, gan fod coed a phlanhigion eraill wedi helpu i sefydlogi gwaddod gan ddefnyddio systemau gwreiddiau. Fodd bynnag, ychydig iawn sy’n hysbys am y coedwigoedd cynharaf.
“Mae'r dystiolaeth sydd yn y ffosilau hyn yn gofnod o’r cyfnod allweddol hwn yn natblygiad y Ddaear, pan ddechreuodd afonydd weithredu mewn ffordd sylfaenol wahanol i’r hyn yr oeddent wedi gwneud o’r blaen. Erbyn heddiw, maent yn rym erydol mawr.”
Cyhoeddwyd eu papur, 'Earth's earliest forest: fossilized trees and vegetation-induced sedimentary structures from the Middle Devonian (Eifelian) Hangman Sandstone Formation, Somerset and Devon, SW England', yn y Journal of the Geological Society.