Dathlu ymchwil ac arloesedd yn y Brifysgol yn nigwyddiad Ewropeaidd Dydd Gŵyl Dewi
3 Mawrth 2024
Mae'r Brifysgol wedi arddangos enghreifftiau o'i hymchwil a'i harloesedd blaenllaw mewn digwyddiad a oedd yn rhan o raglen Dydd Gŵyl Dewi Brwsel 2024 Llywodraeth Cymru.
Trefnwyd y digwyddiad gan Rwydwaith Arloesedd Cymru (RhAC) ac Addysg Uwch Cymru Brwsel gyda chymorth rhaglen Cymru Fyd-eang (a ariennir gan Taith). Y nod oedd tynnu sylw at gryfder ac ehangder yr ymchwil a’r arloesedd sy’n digwydd ym mhrifysgolion Cymru.
Roedd y digwyddiad yn pwysleisio ymroddiad Cymru i weithio gyda phartneriaid ar draws Ewrop, yn ogystal â dathlu cysylltiad y DU â rhaglen Horizon.
Dywedodd yr Athro Roger Whitaker, Rhag Is-Ganghellor Ymchwil, Arloesedd a Menter: “Roedd yn wych gweld gwaith ein hymchwilwyr yn cael ei arddangos i gynulleidfa Ewropeaidd a gweld yr effaith rydym yn ei chael yng Nghymru, yn y DU ac ar draws y byd."
Roedd prosiectau Prifysgol Caerdydd ym meysydd iechyd meddwl, lled-ddargludyddion cyfansawdd a’r amgylchedd adeiledig carbon isel yn rhan o 14 arddangosfa’r digwyddiad ochr yn ochr â phrosiectau o brifysgolion eraill Cymru.
Mewn araith i’r rhai a oedd yn bresennol, a oedd yn cynnwys rhanddeiliaid allweddol, arweinwyr prifysgolion, arweinwyr meddwl yn y sector ymchwil ac arloesedd a Matthias De Moor, Cynrychiolydd Cyffredinol Fflandrys i’r UE, tynnodd Prif Weinidog Cymru, y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford, sylw at barodrwydd Cymru i gymryd rhan weithredol yn Horizon Europe, gan ddefnyddio ei doniau amryfal, ei hadnoddau a’i syniadau i sbarduno mentrau ymchwil arloesol sydd o fudd i’r economi a chymdeithas.
Dywedodd:“Un o rinweddau mwyaf nodweddiadol ein prifysgolion yw pa mor dda y maent yn gwneud ymchwil yr ystyrir ei bod yn cael effaith ragorol yn rhyngwladol. Mae partneriaeth a chydweithio wrth wraidd y llwyddiant hwn – nid yw arloesedd yn digwydd ar ei ben ei hun.”
Roedd y digwyddiad yn gyfle i RhAC arddangos y gwaith y mae’n ei wneud i bartneriaid Ewropeaidd. Mae RhAC yn drefniant cydweithredol arloesol rhwng prifysgolion yng Nghymru sy’n hwyluso cydweithio ar draws prifysgolion Cymru, gan harneisio amrywiaeth ymchwil ac arloesedd yng Nghymru i greu effaith economaidd a chymdeithasol ar gyfer y genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol.