Lleoliad UKRI ar gyfer myfyriwr ffiseg
7 Mawrth 2024
Aziza yw’r dinesydd cyntaf o wledydd Cyngor Cydweithrediad y Gwlff (GCC) i ymuno ag asiantaeth ariannu ymchwil llywodraeth y DU.
Mae Aziza Saif al Mugheiry, yn treulio trydedd flwyddyn ei gradd BSc Ffiseg gyda Seryddiaeth ar Leoliad Proffesiynol yn ymchwilio i ffiseg gronynnau mewn sefydliad Ymchwil ac Arloesedd (UKRI) o’r radd flaenaf yn y DU.
Mae hi'n gweithio ar amrywiaeth o brosiectau gan gynnwys datblygu cyrsiau o Theori Gwasgaru Elfennol i Adlewyrchedd Niwtron yn ISIS Neutron a Muon Source yn Labordy Rutherford Appleton y Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg (STFC) yn Swydd Rydychen.
Yn ôl Aziza: “Rwy’n datblygu modiwlau hyfforddiant gwyddonol sydd wedi’u hanelu at ymchwilwyr, gan gynnwys biolegwyr, sydd â’r diffyg dealltwriaeth o ffiseg sy’n ofynnol ar gyfer arbrofion gronynnau isatomig.”
“Mae'r lleoliad yn wych. Mae'n gymuned anhygoel o wyddonwyr ac ymchwilwyr.”
Daeth rôl Aziza i fodolaeth trwy arweiniad gan Dr Andrea Jimenez Dalmaroni, Uwch Ddarlithydd a Phennaeth y Grŵp Ymchwil Addysg Ffiseg.
Dywedodd Dr Jimenez Dalmaroni: "Mae lleoliadau proffesiynol yn gyfleoedd o werth mawr i fyfyrwyr ffiseg a seryddiaeth, gan eu bod yn rhoi profiad yn y byd go iawn iddyn nhw o ffiseg yn y gweithle. Mae cyfleoedd o’r fath yn caniatáu i'r myfyrwyr roi min ar sgiliau gwyddonol amhrisiadwy, a datblygu i ddod yn ddysgwyr hunan-gyfeiriedig sy’n gallu meddwl yn greadigol ac yn arloesol”.
“Gall lleoliadau gwaith dros flwyddyn gyfan hefyd helpu myfyrwyr i nodi gyrfaoedd posibl iddyn nhw yn y dyfodol, ac maen nhw’n wych i gael ar CV. Rydw i ar ben fy nigon o wybod bod Aziza wedi sicrhau lleoliad gwaith mor boblogaidd, a bod pob dim yn mynd yn iawn iddi.”
Dywedodd Aziza: “Cefais wybod i ddechrau am y cyfle yn UKRI trwy aseiniad gwaith cwrs.
“Roedd fy uwch ddarlithydd yn cydnabod bod gen i botensial ac fe wnaeth fy annog i wneud cais ar gyfer y lleoliad. Ar ôl ychydig fisoedd, cefais fy ngalw am gyfweliad ac yn fuan ar ôl hynny cynigiwyd y swydd i mi tra roeddwn mewn labordy astroffiseg.”
Mae Aziza yn ddinesydd o Oman, ac mae ei llwyddiant wedi’i ganmol gan y wasg yn nhalaith y Gwlff gan mai hi yw dinesydd cyntaf y GCC i ymuno ag UKRI.
UKRI yw noddwr mwyaf ymchwil yn y DU ac mae'n gorff anadrannol o lywodraeth y DU. Mae hefyd yn cyllido STFC, sy’n noddi Labordai Rutherford Appleton.
Yn y dyfodol, hoffai Aziza wneud PhD ffiseg neu athroniaeth ffiseg.