Llwyddiant un o raddedigion Caerdydd gyda meddalwedd ar gyfer dysgwyr awtistig
28 Chwefror 2024
Yn ei flwyddyn olaf, bu Joseph Liu yn gweithio gydag athrawon o Gaerdydd i ddatblygu meddalwedd a allai newid y ffordd y mae dysgwyr awtistig yn cyfathrebu yn yr ystafell ddosbarth.
Wrth iddo dyfu i fyny, defnyddiodd Joseph, sy'n awtistig, PECS ('System Cyfathrebu Cyfnewid Lluniau') yn yr ystafell ddosbarth.
Mae PECS yn system a ddefnyddir i helpu i liniaru heriau cyfathrebu i blant ag Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistiaeth (ASD), ac fel arfer llyfr ydyw sy'n cynnwys delweddau a ddefnyddir i gyfathrebu â rhieni, athrawon ac oedolion eraill heb gyfathrebu ar lafar.
Ar gyfer ei brosiect israddedig blwyddyn olaf yn BSc Cyfrifiadureg, cafodd Joseph ei ysgogi gan y syniad o wneud fersiwn mwy addasadwy o'r system sy'n addas ar gyfer dysgwyr a defnyddwyr o athrawon mewn amgylchedd ystafell ddosbarth.
Fel rhan o'i brosiect, roedd gan Joseph gleient yn y byd go iawn yr oedd yn anelu ei feddalwedd ato. Bu'n gweithio gydag athrawon yn Ysgol Gynradd Pontprennau a Meithrinfa Pontprennau, a brofodd y system a rhoi adborth tra roedd yn ei chyfnod datblygu.
Y prif wahaniaeth rhwng 'PECSOnline' Joseph a'r fersiwn mwy traddodiadol o PECS yw bod Joseff wedi cynllunio ei system i gael ei bersonoleiddio’n llwyr.
Er enghraifft, os yw'r defnyddiwr eisiau siarad am siaced, gall defnyddwyr dynnu llun o'u siaced eu hunain a defnyddio hynny fel y symbol ar gyfer 'siaced' (yn hytrach na siaced cartŵn, er enghraifft).
"Roeddwn i'n cydnabod pa mor bwysig yw adolygiadau, a chael y nodweddion targed i'r cleient fel y byddwn i'n gwybod beth maen nhw am ei gael," meddai Joseph.
"Ychwanegais god mynediad ar gyfer newid eitemau a chyfrifon i atal newidiadau anawdurdodedig, yn ogystal â symbolau personol cyhoeddus a phreifat. Fe wnes i hefyd arddangosiad fideo o'r cymhwysiad fel y gallai cleientiaid weld yr holl nodweddion drostynt eu hunain. "
Yn dilyn y prosiect, llwyddodd Joseph a'i oruchwyliwr, Dr Fernando Lozides, i gyhoeddi eu gwaith a’i rannu'n rhyngwladol. Fe wnaethant gyd-ysgrifennu papur a adolygwyd gan gymheiriaid yn 'Human-Computer Interaction – INTERACT 2023', ac yna cyflwynodd Joseph i gynhadledd INTERACT 2023 yng Nghaerefrog fis Medi diwethaf.
Mae'r gynhadledd ryngwladol, sy'n cael ei chynnal bob dwy flynedd, yn canolbwyntio ar ryngweithio rhwng pobl a chyfrifiaduron.
"Roedd yn brofiad gwych ac fe wnes i siarad â llawer o bobl. Rhoddodd yr hyder i mi sylweddoli fy mod yn gallu gwneud traethawd ymchwil PhD," meddai Joseph.
Esboniodd Joseph y bydd yn parhau i weithio ar PECSOnline ac iddo bellach wedi graddio, ac y byddai'n awyddus i ddod o hyd i gleientiaid i'w helpu i'w ddatblygu. Mae'n bwriadu dychwelyd i Gaerdydd yn y dyfodol i gwblhau PhD ac ehangu ei waith ar y system.
Dywedodd Dr Fernando Lozides: "Cawsom y gofynion gan brosiect go iawn, gwir angen, yn yr ysgol. Cyflawnodd Joe hynny ac adeiladodd y cymhwysiad PECS hwn ac yna fe brofon ni ef gyda'r athrawon yno a'i profodd yn yr ystafell ddosbarth a rhoi adborth i ni i'w wella.
Mae'n gyflawniad gwych i fyfyriwr israddedig gael ei gyhoeddi, ac mae'n rhywbeth sy'n brin iawn. Fel arfer bydd rhywun sy'n gwneud ei PhD neu ei radd Meistr efallai yn meddwl am gyflwyno rhywbeth, ond i rywun sy'n fyfyriwr israddedig, gwnaeth Joe yn rhyfeddol o dda."