Ysgol Pensaernïaeth Cymru yn cryfhau’r berthynas â’i phartner blaenoriaeth, Prifysgol Technoleg Dalian, trwy ymweliadau.
26 Chwefror 2024
Er mwyn meithrin cyfnewid academaidd a gwaith ymchwil cydweithredol, mae Ysgol Pensaernïaeth Cymru (WSA) ym Mhrifysgol Caerdydd yn parhau i ddyfnhau ein partneriaeth â Phrifysgol Technoleg Dalian (DUT) yn Tsieina trwy ymweliadau astudio. Ffurfiolwyd y Bartneriaeth Blaenoriaeth ryngwladol yn 2022, yn dilyn arwyddo Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn 2018.
Croesawodd Ysgol Pensaernïaeth Cymru ddwy garfan o gynrychiolwyr ym mis Ionawr 2024. Yn y garfan gyntaf roedd deng unigolyn o Ysgol Pensaernïaeth a Chelf DUT, gan gynnwys Athro Cyswllt ym maes Gwyddor Bensaernïol, myfyrwyr PhD, a myfyrwyr MSc sy’n arbenigo mewn amrywiol ddisgyblaethau ym maes cynllunio pensaernïol a threfol. Bwriad ymweliad ysgolheigion Dalian ag Ysgol Pensaernïaeth Cymru oedd bod yn daith astudio at ddibenion dysgu traws-ddiwylliannol a chyfnewid syniadau.
Yn y cyfamser, daeth dau ymchwilydd o Adran Peirianneg Sifil yr Ysgol Peirianneg Seilwaith yn DUT ar ymweliad â Phrifysgol Caerdydd ar gyfer prosiect ymchwil cydweithredol ar Adeiladu Clyfar ac Iach. Gyda chefnogaeth cronfa gydweithredol Prifysgol Caerdydd-DUT, mae’r prosiect hwn yn enghraifft o’r canlyniadau diriaethol sy’n deillio o’r bartneriaeth rhwng y ddau sefydliad, ac mae hefyd yn nodi cydweithrediad pwysig a hwyluswyd gan Gyfnewidfa Ryngwladol y Gymdeithas Frenhinol.
Er mwyn hwyluso'r cyfnewid ymchwil, trefnodd WSA weithdy ar y cyd rhwng Prifysgol Caerdydd a DUT ar y thema 'Adeiladau a Dinasoedd Clyfar ac Iach er Dyfodol Carbon Sero Net'. Cawsom 10 cyflwyniad eithriadol gan ysgolheigion o ysgolion amrywiol ym Mhrifysgol Caerdydd, gan gynnwys Ysgol Pensaernïaeth Cymru, Yr Ysgol Peirianneg, Yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg, ac Ysgol Gwyddorau’r Ddaear.
Wrth fyfyrio ar yr ymrwymiadau diweddar, dywedodd yr Athro Zhiwen Luo (Athro Pensaernïaeth yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru), “Yn dilyn ymweliad yr Is-ganghellor, yr Athro Wendy Larner, â Phrifysgol Technoleg Dalian (DUT) yn Tsieina yn gynharach eleni, roeddem yn falch o groesawu dwy garfan o gynrychiolwyr o DUT yn Ionawr 2024.”
“Mae’r ymweliadau ysgolheigaidd hyn gan gyfadrannau Pensaernïaeth a Pheirianneg Sifil DUT yn dyst i’r bartneriaeth gydweithredol gadarn sydd wedi’i chreu rhwng Ysgol Pensaernïaeth Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd a DUT. Rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar at fentrau sydd ar y gweill ac rydym wedi ymrwymo i ymgysylltu ymhellach gydag ymweliadau addysgu ac ymchwil rhwng WSA a DUT."
Sefydlwyd Prifysgol Dalian ym 1949 ac mae ganddi system amlddisgyblaethol ar waith sy'n canolbwyntio ar wyddoniaeth a pheirianneg, gan gydlynu disgyblaethau ym meysydd economeg, y dyniaethau a'r gyfraith.
Mae'r cydweithio parhaus rhwng Ysgol Pensaernïaeth Cymru a DUT yn pwysleisio ymrwymiad y ddau sefydliad i ragoriaeth academaidd, dealltwriaeth draws-ddiwylliannol, a chwilio am atebion arloesol ym meysydd pensaernïaeth a pheirianneg sifil. Wrth i'r ddau sefydliad barhau i adeiladu ar gryfderau ei gilydd, mae'r bartneriaeth yn barod i greu deilliannau dylanwadol sy'n mynd y tu hwnt i ffiniau daearyddol.