Dr Diana Contreras Mojica yn rhannu mewnwelediadau adfer ar ôl trychineb yn ystod ymweliad â Chile
26 Chwefror 2024
Yn sgil trychinebau fel daeargryn Maule yn 2010, mae cymhlethdodau paratoi ar gyfer trychinebau, yr ymateb iddynt a myfyrio yn eu cylch yn dod yn hollbwysig.
Cynigiodd taith Dr Contreras, CIGIDEN (Canolfan Ymchwil Rheoli Risg Trychinebau Integredig neu CIGIDEN, yn ôl ei acronym yn Sbaeneg) gyfle unigryw i ymchwilio i gynnydd y wlad mewn mesurau lleihau risg, yn ogystal â rhoi cipolwg arbenigol ar wersi gwerthfawr ar gyfer paratoi ar gyfer trychinebau byd-eang.
Rhannodd Dr Contreras ganlyniadau rhagarweiniol dadansoddi data o'r cyfryngau cymdeithasol ynglŷn â nodi deng mlynedd ers daeargryn Maule yn 2010. Dechreuodd y dadansoddiad hwn ar fframwaith y prosiect Dysgu o Ddaeargrynfeydd (2016-2023) dan arweiniad Prifysgol Newcastle, Coleg Prifysgol Llundain a Phrifysgol Caergrawnt. Trwy ddadansoddi negeseuon trydar a bostiwyd yn ystod y cyfnod yn nodi 10 mlynedd ers daeargryn a tswnami Maule yn 2010, gwerthusodd Dr Contreras gynnydd y broses adfer ar sail canfyddiad defnyddwyr cyfryngau cymdeithasol. Cymharodd ganlyniadau â'r un dadansoddiad ar gyfer nodi 10 mlynedd ers daeargrynfeydd yn L'Aquila a Haiti, a nodi deng mlynedd ers daeargryn Gorkha yn Nepal. Mae hi'n disgwyl cymharu'r canlyniadau hyn â chanlyniadau'r un dadansoddiad ar gyfer nodi deng mlynedd ers y daeargryn yn Christchurch yn Seland Newydd a Tōhoku yn Japan. Diben y dadansoddiad hwn oedd nodi elfennau llwyddiant a methiant prosesau adfer ar ôl trychineb yn sgil daeargrynfeydd mewn modd systematig.
Sefydlwyd CIGIDEN yn 2011 ac fe'i hariennir gan lywodraeth Chile, gyda swyddfeydd yn Santiago, Viña del Mar a Concepción. Fel Ganolfan, mae wedi datblygu i fod yn esiampl o ymchwil ac arloesi wrth reoli risg trychinebau, gan dderbyn Gwobr Hamaguchi gan lywodraeth Japan am ei chyfraniadau sylweddol at wella gwydnwch arfordirol yn erbyn tswnamis, ymchwyddau storm a thrychinebau arfordirol eraill.
Gan adleisio'r dull rhyngddisgyblaethol a fabwysiadwyd gan sefydliadau blaenllaw fel yr un yma yn Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd ym Mhrifysgol Caerdydd, mae cenhadaeth CIGIDEN yn gwbl glir: i sicrhau rhagoriaeth mewn gwybodaeth sydd â'r nod o atal digwyddiadau naturiol rhag troi’n drychinebau enbyd. Mae meysydd ymchwil amlochrog y Ganolfan yn cynnwys prosesau daear solet, dynameg dŵr wyneb, a dadansoddiadau risg a gwydnwch. Saif Chile o fewn Cylch Tân y Môr Tawel yn ne pell De America. Mae'r lleoliad hwn yn arwain at botensial perygl seismig uchel. Yn ogystal â tswnamis, mae Chile yn agored i ffrwydradau folcanig, llifogydd, tirlithriadau, sychder a phandemigau, sy'n creu heriau unigryw i'r llywodraeth o ran paratoi a chynllunio.
Roedd ymweliad Dr Contrera â CIGIDEN, lle'r oedd yn ymchwilydd ôl-ddoethurol, yn sbardun ar gyfer cyfnewid gwybodaeth a chydweithio. Wedi'i drochi yn ymdrechion ymchwil y Ganolfan ac wrth rannu mewnwelediadau a ddatblygwyd trwy flynyddoedd o brofiad, cymerodd Dr Contreras ran mewn trafodaethau ffrwythlon gyda thîm arbenigwyr CIGIDEN.
Mae cydnabod natur gydgysylltiedig risg trychineb, cyfnewid gwybodaeth rhwng sefydliadau fel CIGIDEN, Prifysgol Caerdydd a phrifysgolion eraill dramor yn hanfodol i hyrwyddo ymdrechion ar y cyd i liniaru effaith peryglon naturiol. Yma yng Nghymru, gyda'n cefn gwlad helaeth ac amrywiol, ein tirwedd ôl-ddiwydiannol ac effeithiau ymledol y newid anthropogenig yn yr hinsawdd, mae cynllunio peryglon aml-lefel yn hanfodol i ddiogelu ein diogelwch a sicrhau ein hirhoedledd.
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd wedi derbyn £2 filiwn yn ddiweddar gan Sefydliad Cofrestr Risg Lloyds, sy'n ceisio astudio, creu a chefnogi aelwydydd incwm isel gyda chynllunio aml-berygl, ar ôl i ymchwil ddatgelu mai dim ond mewn 14 o'r 121 o wledydd a thiriogaethau a holwyd y dywedodd mwyafrif y bobl fod ganddynt gynllun y mae pob aelod o'u cartref yn gwybod amdano pe bai trychineb yn digwydd.
Mae Dr Contreras Mojica yn Ddarlithydd mewn Gwyddoniaeth Geo-ofodol yn Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd, lle mae ei meysydd arbenigedd yn rhychwantu rheoli trychinebau, rhagchwilio daeargrynfeydd ac asesu perygl yn ogystal â gwydnwch ac addasu i’r newid yn yr hinsawdd.