Cytundeb partneriaeth newydd wedi'i lofnodi gyda'r Ysgol Cynllunio a Phensaernïaeth yn Delhi
26 Chwefror 2024
Teithiodd Pennaeth yr Ysgol yr Athro Juliet Davis a’r Cyfarwyddwr Rhyngwladol Dr Shibu Raman i Delhi yr wythnos hon i lofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth newydd gyda'r Ysgol Cynllunio a Phensaernïaeth (SPA) yn Delhi.
Mae’r bartneriaeth yn cryfhau ein perthynas bresennol ag SPA; mae gennym hanes da o gydweithio â'r ysgol ar ymchwil a dylunio sy'n deillio o Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth cynharach yn 2016. Mae'r cytundeb newydd yn arwydd o ymrwymiad i feithrin partneriaethau ystyrlon a hyrwyddo mentrau cydweithredol ym meysydd ymchwil ac addysgeg.
Cyfarfu Deon Ymchwil SPA yr Athro Sanjay Gupta, y Pennaeth Dylunio Trefol Manu Mahajan, y Pennaeth Pensaernïaeth yr Athro Anil Dewan, yr Athro Pensaernïaeth Manoj Mathur, a'r Athro Arunava Dasgupta (Llywydd Sefydliad y Dylunwyr Trefol yn India) a Dr Shweta Manchanda ynghyd ag aelodau eraill o’r gyfadran a myfyrwyr â’r Athro Davis a Dr Raman i lofnodi’r cytundeb ar 22 Ionawr 2024.
Mae WSA ac SPA yn rhannu arbenigedd mewn amrywiaeth o feysydd yn ymwneud â'r amgylchedd adeiledig ac ymchwil sy'n canolbwyntio ar ddylunio sy'n rhychwantu dylunio trefol, treftadaeth a chadwraeth, ac ynni a'r amgylchedd. Bydd y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth newydd yn galluogi cydweithio ar draws addysgu ac ymchwil, gan gefnogi sefydlu partneriaethau addysg i wella profiadau dysgu rhyngwladol myfyrwyr yn y ddau sefydliad. Bydd yn cynnig cyfleoedd i gyd-oruchwylio myfyrwyr ymchwil doethurol, a datblygu ceisiadau ariannu ar y cyd mewn meysydd arbenigedd cyffredin.
Caiff SPA ei gosod yn gyson ymhlith y 5 ysgol orau yn India tra bod WSA ymhlith y 5 uchaf yn y DU. Cydnabyddir SPA fel 'Sefydliad o Bwysigrwydd Cenedlaethol' am y rôl y mae'n ei chwarae wrth lunio addysg bensaernïol ac arwain y drafodaeth ar ddyfodol dinasoedd India. Ymhlith y cyn-fyfyrwyr nodedig mae’r awdur Arundhati Roy a phenseiri arobryn gan gynnwys Raj Rewal, Revathi Kamath, Gerard da Cunha, Anil Laul a Manjit Rai Agnihotri.
Dywedodd Shibu Raman: “Mae SPA yn bartner academaidd pwysig i WSA yn India, ac yn rhannu ystod o ddiddordebau ymchwil a nodau addysgegol. Ar ôl adeiladu momentwm mewn gweithgareddau ar y cyd megis stiwdio gydweithredol 'Trefolaeth Fyw' a chynigion ymchwil, bydd adnewyddu'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn hwyluso mwy o gydweithio ac yn arwain at gyfleoedd symudedd i staff a myfyrwyr."
Yn Delhi, dywedodd yr Athro Arunava Dasgupta: “Ers y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth diwethaf rhwng Caerdydd ac SPA yn 2016, a chyn hynny hefyd, roedd SPA-UD a Chaerdydd yn cynnal llawer o weithredoedd ymchwil partneriaeth, stiwdios ar y cyd a chyhoeddiadau. Mae rhai o'r cydweithrediadau'n cynnwys charrettes dylunio yn Delhi, stiwdios cyfun ym Mangaluru a Kochi gan gynnwys arddangosfeydd ar y cyd - ffisegol a rhithwir - cyd-ysgrifennu papurau, cyd-ysgrifennu cynigion ar gyfer cyllid, paratoi ar gyfer rhaglenni cyfnewid myfyrwyr, arholiadau doethurol, arholiadau /crit Meistr ac Israddedig."
“Drwy adnewyddu’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth, gobeithio y gallwn gadw ein gweithredoedd yn fyw, a hefyd symud ein partneriaethau i uchelfannau newydd o ran gwybodaeth/cymhwyso.”
Ymhlith y pynciau penodol y gellir eu harchwilio fel meysydd ffocws ar gyfer dysgu a chydweithio traws-sefydliadol mae treftadaeth bensaernïol/drefol fregus, tai cynaliadwy, hyfywedd lleoedd trefol, heriau trefoli cyflym, cynhyrchu ynysoedd gwres trefol a chroestoriadau iechyd ac ansawdd aer.
Rydym yn edrych ymlaen at weithio'n agos gydag SPA yn y dyfodol.