Astudiaeth ryngwladol newydd ar awyrgylchoedd diogel mewn ysbytai
22 Chwefror 2024
Awyrgylchoedd diogel mewn ysbytai, a all helpu i osgoi niwed i gleifion, yw ffocws astudiaeth ryngwladol newydd dan arweiniad Dr Tracey Rosell yn Ysgol Busnes Caerdydd.
Gyda Sefydliad Iechyd y Byd yn nodi camgymeriadau meddygol yn un o brif achosion marwolaeth ac anabledd ledled y byd, nod yr ymchwil hon yw deall sut y gall pobl greu awyrgylchoedd diogel.
Mae’n adeiladu ar astudiaeth gychwynnol a gynhaliwyd gan yr Ymchwilydd Ôl-ddoethurol, Dr Tracey Rosell, a amlygodd bwysigrwydd awyrgylch mewn theatrau llawdriniaethau. Dangosodd yr astudiaeth hon fod yr awyrgylch yr oedd pobl yn ei brofi’n effeithio'n uniongyrchol ar eu barn, a sut yr oeddent yn ymddwyn ac yn rhyngweithio â'i gilydd.
Bydd yr astudiaeth newydd hon yn ceisio deall y cydadwaith rhwng awyrgylchoedd a diogelwch mewn rhagor o fanylder. Ei nod yw deall o ble mae awyrgylchoedd 'diogel' ac 'anniogel' yn dod. Mae hefyd yn ceisio deall sut y gellir creu awyrgylchoedd mewn ffyrdd sy'n gwella diogelwch cleifion.
Mae ymchwil blaenorol yn amlygu pwysigrwydd cynyddol y ffactorau hyn i dimau clinigol, a'r problemau sy'n deillio o'r ffaith nad yw gweithwyr y GIG yn teimlo y gallant godi llais am broblemau. Mae arwyddocâd yr ymchwil hon yn cael ei danlinellu gan ddigwyddiadau diweddar fel achos Lucy Letby ac adroddiadau o aflonyddu rhywiol yng Nghymru a Lloegr, gan daflu goleuni ar yr hyn a all ddigwydd mewn awyrgylch lle na gwrandewir ar leisiau.
Meddai Dr Tracey Rosell: “Fe sylweddolais y gall yr awyrgylch y mae pobl yn ei greu mewn theatrau llawdriniaeth gefnogi ein staff rheng flaen i, o bosib, atal niwed i gleifion a gwella eu lles eu hunain a lles eu cydweithwyr. Roeddwn yn awyddus i ddod o hyd i ffyrdd o dynnu sylw at hyn – oherwydd er y gallai timau llawfeddygol fod yn ymwybodol o’u gallu i greu, neu ddinistrio, awyrgylchoedd diogel, nid yw’r potensial i wneud hynny wedi’i nodi na’i fabwysiadu gan yr ysbytai y maent yn gweithio iddynt.”
Ychwanegodd:
Nod yr astudiaeth newydd yw datblygu ein dealltwriaeth o:
- awyrgylchoedd diogel a sut maent yn cael eu creu, eu dinistrio, eu hadfer a'u hatgynhyrchu.
- beth yw canlyniadau creu awyrgylchoedd diogel.
Oherwydd tystiolaeth gychwynnol a oedd yn awgrymu bod gwahaniaethau cenedlaethol o ran creu awyrgylchoedd diogel, bydd yr astudiaeth yn ymchwilio i sut mae arferion a systemau’n amrywio ledled y byd o ran cefnogi neu atal defnydd bwriadol o awyrgylch. Bydd hyn yn helpu'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau yn y GIG, a systemau gofal iechyd gwledydd eraill, i ystyried a allant wella prosesau hyfforddi a gofal ysbytai, er mwyn gwella diogelwch cleifion a lles gweithwyr.
Lansiwyd yr astudiaeth yn ddiweddar yn y symposiwm Ethnography in Extremis a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Umeå, Umeå Sweden ar 7-8 Chwefror 2024.
Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan a darllen rhagor am yr astudiaeth, cysylltwch â ni.