Deall budreddi Carthffosydd Cyfunol sy’n gorlifo
19 Chwefror 2024
Mae ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd yn galw am waharddiad ar fflysio cadachau gwlyb i lawr y toiled, a hynny i geisio atal carthion amrwd rhag cael eu gollwng i ddyfroedd y DU.
Mae tîm o ecolegwyr, peirianwyr, mathemategwyr, ac economegwyr o bob rhan o'r Brifysgol wedi bod yn gweithio gyda'i gilydd i ddechrau mynd i'r afael â’r heriau yn sgil Carthffosydd Cyfunol sy’n gorlifo a charthion sy’n gollwng, gan awgrymu strategaethau yn y byr a’r hirdymor i sicrhau dyfroedd glanach yn y DU yn y dyfodol.
Yn ogystal â gwaredu cadachau gwlyb, mae'r tîm hefyd yn awgrymu defnyddio llai o ddŵr, gwell cynlluniau monitro a buddsoddiadau newydd.
Dyma a ddywedodd Dr William Perry, ecolegydd yn Sefydliad Ymchwil Dŵr Prifysgol Caerdydd: “Yn aml, bydd systemau dŵr gwastraff yn Ewrop sy’n heneiddio yn cyfuno carthion domestig â dŵr ffo arwyneb a dŵr gwastraff diwydiannol. Er mwyn lleihau'r risg yn sgil gorlwytho gwaith trin dŵr gwastraff yn ystod stormydd, ac i atal dŵr gwastraff rhag cronni mewn eiddo, dylunnir Carthffosydd Cyfunol sy’n gorlifo yn rhan o rwydweithiau dŵr gwastraff i ryddhau dŵr gwastraff dros ben sydd heb ei drin i afonydd neu ddyfroedd arfordirol.
“Rydyn ni’n deall pryder y cyhoedd ynghylch yr effeithiau posibl ar amgylcheddau a phobl yn sgil y gorlifoedd hyn, felly mae’n rhaid inni ddeall yr effeithiau hyn yn well er mwyn dod o hyd i atebion cost-effeithiol.
Aeth y tîm ati i ddeall y materion ynghlwm ac i ddatblygu cynllun i helpu i ddiogelu systemau carthion yn y dyfodol, gan atal carthion rhag cael eu gollwng i ddyfroedd y DU. Adolygon nhw’r ymchwil flaenorol ar Garthffosydd Cyfunol sy’n gorflifo a chanfuwyd diffyg amcangyfrifon, monitro ac astudiaethau y mae eu dybryd angen.
Daethon nhw i’r casgliad bod dybryd angen amcangyfrifo’n well faint o garthion sy’n cael eu gollwng a beth sydd ynddo. Ar ben hynny, mae mawr angen astudiaethau cynhwysfawr ar effaith Carthffosydd Cyfunol sy’n gorlifo.
Dyma a ddywedodd Dr Perry: “Aethon ni ati i adolygu'r risg go iawn y mae pobl ac ecosystemau yn ei hwynebu yn sgil Carthffosydd Cyfunol sy’n gorlifo. Ond daethon ni i’r casgliad bod ein dealltwriaeth yn gyfyngedig i'r fath raddau, oherwydd diffyg data a monitro, nad yw'n ymarferol ar hyn o bryd asesu mewn ffordd briodol y risg y mae pobl ac ecosystemau yn ei hwynebu yn sgil Carthffosydd Cyfunol sy’n gorlifo.
“Mae'n hollbwysig bod rhagor o fonitro’n digwydd. Mae mynd i'r afael â'r bylchau hyn yn ein gwybodaeth yn hollbwysig os ydyn ni eisiau blaenoriaethu buddsoddiadau a lliniaru risgiau.”
Datblygodd yr ymchwilwyr awgrymiadau o ran atebion yn y byr a’r hirdymor i fynd i'r afael â Carthffosydd Cyfunol sy’n gorlifo. Ymhlith yr atebion yn y tymor byr roedd gwella monitro a deall canlyniadau gollyngiadau. Amlygodd eu strategaethau tymor hir fod newidiadau sylfaenol wedi bod yn y gwaith o reoli dŵr gwastraff mewn ffordd gyfannol ac ymyrryd i fyny'r afon er mwyn lleihau’r gwastraff sy'n mynd i mewn i garthffosydd. Mae hyn yn gofyn am ymdrechion ar y cyd a newidiadau systemig, gan gynnwys ystyried dewisiadau datganoledig eraill yn lle systemau dŵr gwastraff traddodiadol.
Mae'r ymchwilwyr yn awgrymu y byddai gwahardd cadachau gwlyb, er enghraifft, yn helpu i atal gollyngiadau carthion yn sgil pibellau sy’n cael eu rhwystro tra hefyd yn lleihau llygredd plastig. Maen nhw hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd ymgysylltu â defnyddwyr i’w hargymell i ddefnyddio llai o ddŵr er mwyn lleihau’r llwyth ar y rhwydwaith carthffosiaeth.
“Bydd angen hefyd gyfrifoldebau cymdeithasol ehangach ym maes dŵr gwastraff a moneteiddio costau a manteision yr atebion yn well,” ychwanegodd yr Athro Isabelle Durance, Cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Dŵr Prifysgol Caerdydd.